Ar ddechrau ei yrfa ymdynghedodd i roi'r ddegfed ran o'i enillion i'r eglwys. O ganlyniad, ac mewn cydweithrediad ag ychydig aelodau eraill, daeth eglwys Moreia (MC), Walthamstow, i fod, a chynorthwyodd godi tŷ gweinidog yno. Cododd ysgoldy (MC) ger ei hen gartref yn Llanrhystud yn ogystal. Gwasanaethodd naw ml. ar Gyngor Bwrdeistref Walthamstow. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n siryf Ceredigion yn 1940 a daeth yn aelod ac yn henadur (1949) Cyngor Sir Aberteifi, gan fod yn gadeirydd y pwyllgorau lles ac iechyd. Ef oedd cadeirydd Cymdeithas Tai Hen Bobl Aberystwyth a'r Cylch pan brynwyd Deva, cartref i'r hen y bu ef yn hael iawn ei roddion iddo. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn gwelliannau mewn amaethyddiaeth a rhoddodd £10,000 i'r Adran Iechyd Anifeiliaid yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n llywydd Cymdeithas Gydweithredol Ffermwyr Gogledd Ceredigion am gyfnod. Cefnogai addysg, gan fod yn gadeirydd cyntaf rheolwyr Ysgol Uwchradd Fodern Dinas, Aberystwyth, ac yn rheolwr C.P.C., Aberystwyth a Phrifysgol Cymru. Ar fyr rybudd prynodd a chyflwynodd i'r coleg 200 erw o dir ar ystad Penglais rhag i adeiladau anaddas gael eu codi yno. Derbyniodd radd LL.D. er anrh. yn 1947 am ei gymwynas. Y flwyddyn ddilynol cyflwynodd ei wraig fen gyntaf y llyfrgell deithiol i'r Cyngor Sir i gynnal gwasanaeth a werthfawrogir yn fawr gan bobl cefn gwlad Ceredigion.
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth