Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ALBAN DAVIES, JENKIN (1901-1968), gŵr busnes a dyngarwr; g. 24 Meh. 1901, yn Walthamstow, Llundain, mab hynaf David Alban Davies (gw. uchod) a Rachel (g. Williams) ei wraig, y ddau o Geredigion. Addysgwyd ef yn ysgol Merchant Taylors, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen, ond ni allai fforddio mynd yno. Aeth i Brifysgol Cornell, T.U.A., am ddwy fl. yn efrydydd amaethyddiaeth a llaetheg a gweithiodd am gyfnod byr mewn cwmnïau Americanaidd er mwyn astudio'u dulliau hwy o redeg busnes. Ymunodd â busnes y teulu yn 1925 ac ymhen amser daeth yn gadeirydd y cwmni, Llaethdai Hitchman, Cyf., a werthai 20,000 o alwyni o laeth y dydd a chyflogi dros 500 o ddynion pan werthwyd ef i gwmni cyfyngedig United Dairies yn 1946. Yr oedd hefyd yn dansgrifennwr cwmni yswiriant Lloyd. Ar 6 Rhag. 1939 pr. Margaret, merch John Davies, capten llong, Aberaeron a bu iddynt ddau fab. Bu f. 26 Mai 1968 ym Mrynawelon, Llanrhystud, Cer., ei gartref er 1963.

Bu'n weithgar yn lleol, gan ddod yn llywydd y Gymdeithas Ryddfrydol a'r Clwb Rotari yn Walthamstow a gweithiodd gyda Chymdeithas y Clybiau Ieuenctid yno, ac yntau'n sbortsmon ei hun. Pan aeth capel Moreia (MC), Walthamstow, yn rhy fach, ef a fu'n bennaf gyfrifol am annog codi capel newydd, Moreia, yn Leytonstone, a oedd yn fan cyfarfod cyfleus i'r Cymry ifainc a dyrrai i Lundain bryd hynny. Derbyniodd lawer o gymdeithasau Cymraeg Llundain roddion hael ganddo. Gwnaeth ei orau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac yr oedd yn un o sylfaenwyr Ysgol Gymraeg Llundain a agorwyd fis Medi 1961 mewn ystafell dros dro yn neuadd Eglwys Dewi Sant. Yn ddiweddarach darparodd fws i gludo'r plant i'r dosbarth Cymraeg yn ysgol gynradd Ffordd Hungerford yn Islington cyn i'r dosbarth symud i Willesden Green. Flynyddoedd ynghynt, yn 1948, sefydlodd ysgol baratoawl i fechgyn yn Abermâd, Llanilar, Cer., lle y dysgid hwy trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at naw oed. Bu'r ysgol ar agor hyd tuag 1971. Yn 1965 arweiniodd ddirprwyaeth i Batagonia. Gwasanaethodd nifer o sefydliadau yng Nghymru. Fel trysorydd rhoddodd arweiniad gwerthfawr i Urdd Gobaith Cymru (c. 1950), i G.P.C. (1954-68) ac i Goleg Harlech (1957-68). Bu'n gadeirydd Cyngor Diogelu Cymru Wledig; yn aelod o gynghorau C.P.C. ac A.G.C.; ac aelod dros Gymru o'r Awdurdod Teledu Annibynnol am ddau dymor, 1956-64. Derbyniodd Urdd Gobaith Cymru roddion ganddo, cyfrannodd yn hael tuag at gynhyrchu The Oxford book of Welsh verse a rhoddodd £10,000 i gronfa adeiladau C.P.C., Aberystwyth. Cydnabuwyd ei wasanaeth arbennig i amrywiol agweddau ar y bywyd Cymreig trwy ei benodi'n siryf Ceredigion yn 1951 a dyfarnwyd gradd LL.D. er anrh. iddo gan Brifysgol Cymru yn 1964.

Llyfryddiaeth:

  • West. Mail, 27 Mai 1968;
  • gwybodaeth gan ei weddw.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth