ALBAN, Syr FREDERICK JOHN (1882 - 1965), cyfrifydd a gweinyddwr.

Enw: Frederick John Alban
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1965
Priod: Alice Emily Alban (née Watkins)
Rhiant: Hannah Alban
Rhiant: David Alban
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfrifydd a gweinyddwr.
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 11 Ionawr 1882 yn (?) Y Fenni, yn fab i David Alban a'i wraig Hannah. Bu'r fam farw yn Y Fenni 28 Medi 1884. Teiliwr wrth y dydd oedd y tad a bu yntau farw yn Henffordd 2 Ionawr 1891. Y canlyniad fu chwalu'r teulu. Bu'r ddau fab hynaf yn cadw siop grydd yn agos i Fleetwood. Magwyd Frederick John gan ' Miss Williams ' a elwid yn fodryb gan ei blant, ond ni wyddys a oedd yn berthynas gwaed. Beth bynnag, o dan amgylchiadau caled y magwyd y bachgen. Bu yn yr ysgol genedlaethol yn Y Fenni nes bod yn 12 oed, yna codwyd y tâl ysgol i 6c. yr wythnos a bu rhaid iddo yntau ei gadael. Ymroes i'w addysgu ei hun gan fenthyca llyfrau a'u copïo mewn llawfer tra'n gweithio fel crwtyn yn swyddfa Spicketts, cyfreithwyr, ym Mhontypridd. Yr oedd yn weithiwr caled a bodlonai ar bedair awr o gwsg. Er hynny, yr oedd yn llawn asbri fel llanciau ei gyfnod, a thorrodd ei goes a'i fraich ar wahanol achlysuron, ac ni osodwyd yr un ohonynt yn gywir yn eu lle. Cafodd ddamwain i'w lygaid hefyd, ac amharodd hynny ar ei olygon.

Ymsefydlodd ym Mhontypridd ac yn 17 oed penodwyd ef yn gynorthwywr clerigol i'r Bwrdd Gwarcheidwaid Lleol. Dair blynedd yn ddiweddarach dyrchafwyd ef yn gyfrifydd i'r cyngor dosbarth trefol. Yn 1907 enillodd y safle uchaf yn arholiad terfynol yr Institute of Municipal Treasurers and Accountants. Cyflawnodd yr un gamp yn arholiadau terfynol y Society of Incorporated Accountants and Auditors, a'r Chartered Institute of Secretaries. Ef oedd yr unig un erioed i ennill yr anrhydedd driphlyg hon. Enillodd fedal aur y Soc. of Inc. Accountants & Auditors, yn 1909. Yr oedd yn gymrawd o'r Institute of Chartered Accountants (F.C.A.). Bu'n gyfrifydd i Fwrdd Dŵr Unedig Pontypridd a'r Rhondda am ddwy flynedd. Daeth i sylw Thomas Jones a welodd ei werth i'r Comisiwn Yswiriant Cenedlaethol Cymreig (rhagflaenydd y Bwrdd Iechyd) ac yn 1912 gwnaethpwyd ef yn ddirprwy gyfrifydd i'r corff, swydd a roes heibio yn 1916 er mwyn bod yn rheolwr ac ysgrifennydd cyffredinol i'r Gymdeithas Genedlaethol Gymreig a sefydlwyd gan David Davies (1880-1944) a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret i Goffáu'r Brenin Edward VII ac ymladd i ddileu'r ddarfodedigaeth. Gweithredodd fel cyfrifydd i'r Weinyddiaeth Fwyd yng Nghymru, 1918-19. Ymddiswyddodd o'r Gymdeithas Goffadwriaethol yn 1922 ond parhaodd i'w chynghori ar faterion cyllidol. Bu'n gynghorwr ar gyllid i nifer o awdurdodau lleol.

Gyda Norman Ernest Lamb ffurfiodd gwmni Alban & Lamb, cyfrifyddion siartredig, yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Sefydlodd The Accountancy and Secretarial Training Institute yng Nghasnewydd i drefnu cyrsiau hyfforddi drwy'r post a chyhoeddi llawlyfrau talfyredig i gynorthwyo myfyrwyr ar gyfer arholiadau proffesiynol, adlais o'i brofiadau cynnar ef ei hun yn ei ymdrech i feistroli gwybodaeth ei alwedigaeth. Bu'n gyfrifydd ymgynghorol i Fwrdd Dŵr Taf Fechan, a gweithredodd ar dribiwnlysoedd a sefydlwyd o dan ddeddfau seneddol ynglŷn â thrydan, dŵr, a nwy. Bu'n gadeirydd pwyllgor cyllid Ysgol Feddygol Cymru (y Coleg Meddygol erbyn hyn). Cadwodd ei ddiddordeb mewn trefnyddiaeth feddygol oddi ar ei gyfnod gwasanaeth i'r Gymdeithas Goffadwriaethol. Y pryd hwnnw llwyddasai i berswadio awdurdodau lleol Cymru i gydweithio i sicrhau llwyddiant ymgyrchoedd y gymdeithas honno. Gwelwyd effeithiau ei arweiniad doeth a diogel yn y berthynas ffrwythlon a grewyd rhwng Bwrdd Ysbytai Cymru, yr Ysgol Feddygol, ac ysbytai unedig Caerdydd pan oedd ef yn gadeirydd y bwrdd hwnnw o 1947 i 1959.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar weinyddu gweithfeydd dŵr ac ar gwestiynau ynglŷn â threthiant a chyllid llywodraeth leol a materion ynglŷn â threth incwm. Yn 1954 cyhoeddodd lyfr ar Socialisation in Great Britain and its effects on the accountancy profession. Derbyniodd lu o anrhydeddau yn ei alwedigaeth ac o'r tu allan iddi. Gwnaethpwyd ef yn llywydd y Society of Incorporated Accountants yn 1947, yn aelod anrhydeddus dros oes o gymdeithas Cyfrifyddion Cyhoeddus Ontario ac yn gymrawd anrhydeddus o'r Inst. of Municipal Treasurers & Accountants, 1954. Yr oedd yn ynad heddwch ym Morgannwg, gwnaethpwyd ef yn C.B.E. yn 1932 ac yn farchog yn 1945. Rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1956. Enillodd fedal arian y Society of Arts ddwywaith.

Priododd, 27 Awst 1906, ag Alice Emily Watkins, a anwyd yn Ewyas Harold 21 Hydref 1881, merch James Watkins, saer olwynion, ac Emily, ei wraig (ganwyd Hughes, yna Woodhill). Yn 1906 yr oedd hi'n gweithio yn y fasnach hetiau merched yng Nghrucywel, ac wedi priodi bu'n gymorth mawr i'w gŵr gyda'r gwaith clerigol. Cawsant chwech o blant, pedwar mab a dwy ferch, a mynnodd eu tad roi pob cyfleusterau addysg iddynt. Aeth dau o'r bechgyn a'r ddwy ferch yn feddygon, a'r ddau fab arall i alwedigaeth eu tad. Bu ef farw 2 Mai 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.