Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ANTHONY, DAVID BRYNMOR (1886-1966), athro a chofrestrydd; g. 28 Hyd. 1886 yng Nghydweli, Caerf., ail fab John Gwendraeth a Mary (g. Harris) Anthony. Masnachwr bwydydd a dilledydd oedd y tad yn Paris House yn y dreflan honno. Addysgwyd ef yn ysgol y Castell yng Nghydweli, ysgol Uwchradd Llanelli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r ymaelododd yn Hyd. 1905 a graddio gyda dosbarth I mewn Ffrangeg a Ieitheg Romawns yn 1908, gan gynnwys hanes a Lladin yn ei gyrsiau. O Hyd. 1908 hyd Ion. 1910 bu'n dysgu yn y Collège de Garçons, Cambrai (Ffrainc), ond gyda chymorth ysgoloriaeth ymchwil Prifysgol Cymru gallodd adael y swydd honno a pharhau ei astudiaethau yn y Sorbonne a'r Bibliothèque Nationale. Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru ym Meh. 1910 am draethawd ar y grŵp Parnasaidd o feirdd Ffrainc. Yn Ion. 1911 apwyntiwyd ef yn athro Ffrangeg yn ysgol Uwchradd Sirol Holloway, Llundain.

Ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Medi 1914 a bu'n gwasanaethu yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r Eidal o Dach. 1915 i ddiwedd Ion. 1919. Dyrchafwyd ef yn gapten a dyfarnwyd iddo'r M.C., a bar i'r M.C., medal arian yr Eidal am ddewrder a'r Croce di Guerra. Ar ddiwedd y brwydro apwyntiwyd ef i drefnu cynlluniau addysgol i'r milwyr yng ngogledd yr Eidal, a daeth, drwy ei arhosiad pellach, yn feistr ar Eidaleg. Yn 1920 enillodd ddiploma mewn Eidaleg o Brifysgol Fflorens.

Dychwelodd yn 1919 i ysgol Holloway ac yn Chwef. 1921 apwyntiwyd ef yn gofrestrydd Prifysgol Cymru. Yn ychwanegol at ddyletswyddau'r gofrestryddiaeth cymerodd at ysgrifenyddiaeth weithredol yr Ysgol Feddygol yn 1931, hyd oni phenodwyd ysgrifennydd amser llawn. Fel ysgrifennydd Pwyllgor Celfyddyd y Brifysgol cafodd gyfle i ddeffro a meithrin mwy o werthfawrogiad o gelfyddyd yng Nghymru. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes yng Nghymru y daeth yn ysgrifennydd ac wedyn yn gadeirydd arni, a pharhaodd celfyddyd yn nwyd ynddo. Nid anghofiodd ei ddiddordeb mewn Ffrangeg ac ieithoedd modern. Bu'n drysorydd mygedol i'r Modern Language Association, yn aelod o'i chyngor, ac yn llywydd cangen de Cymru ohoni. Yn 1936 enwyd ef yn Officier d' Académie gan lywodraeth Ffrainc. Rhwng 1939 ac 1945 bu'n gadeirydd Cyfeillion Ffrainc Rydd yng Nghaerdydd ac am ei wasanaeth i'r Lluoedd Ffrengig Rhydd dyfarnodd llywodraeth Ffrainc y Médaille de Vermeil de la Reconnaissance Française iddo yn 1947. Yn 1964 dyrchafwyd ef i reng Officier de l'Ordre des Palmes Académiques am ei wasanaeth i Ffrainc a'i diwylliant.

Ymddeolodd o'r gofrestryddiaeth yn 1945, ac yn Chwef. 1946 penodwyd ef yn brif arolygydd y Bwrdd Canol Cymreig. Unwyd y Bwrdd gyda'r Cyd-bwyllgor Addysg dan y drefn newydd ac aeth yntau drosodd i'r Cydbwyllgor.

Pr. Doris Musson, merch ieuengaf Mr. a Mrs. George Tait Galloway Musson, Lerpwl, 24 Ebr. 1918. Bu iddynt ddau blentyn, David Alan a Lois Mary. Cafodd ryddfreiniaeth Cydweli yng Ngorff. 1924. Yr oedd yn flaenor yn eglwys Pembroke Terrace (MC), Caerdydd, ac yn aelod o bwyllgor Symudiad Ymosodol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Credai'n gadarn yng ngwerth bod yn gorfforol ddiwyd; cymerai gerdded o ddifri a chwaraeai golff yn gyson fel aelod o glwb y Radur. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dechreuodd gadw gwenyn a daeth yn berchen cychod lawer a chynhyrchu cyflenwad mawr o fêl. Y mae hyn yn nodweddiadol o'i ddifrifoldeb a'i ddiwydrwydd, neu'n well, ei fisïwch. Bu f. 24 Ion. 1966.

Llyfryddiaeth:

  • Manylion personol gan ei ferch, Lois Mary Anthony.

Awdur:

Yr Athro Thomas John Morgan, D.Litt., (1907-86), Caerdydd / Abertawe