Yr oedd Ashby yn ŵr amlwg ymhlith y criw bychan a fu'n arloesi gydag economeg amaethyddol fel maes astudiaeth ynddo'i hunan. Yn ystod ei flynyddoedd yn Aberystwyth cafodd gyfle i amlygu'i ddoniau yn y maes hwn, a chafwyd arweiniad cadarn ganddo oddi mewn i'r coleg ac yn y cylchoedd amaethyddol oddi allan. Yr oedd addysg pobl ifanc cefn gwlad yn bwysig yn ei olwg, ac fel aelod o'r pwyllgor a oedd yn dyfarnu ysgoloriaethau i feibion a merched gweithwyr cefn gwlad cafodd gyfle i wneud ei orau drostynt ar hyd y blynyddoedd. Gyda'i brofiad ymarferol o fywyd a gwaith fferm rhoddodd o'i orau fel aelod o'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol o 1924 ymlaen i gadw ac i ddyfnhau'r berthynas dda rhwng ffermwyr a gweithwyr tir. Yn gymaint â dim yr oedd hefyd yn weithiwr diflino o blaid cydweithrediad amaethyddol a bu'n gefnogol iawn mewn llawer ystyr i weithgareddau Cymdeithas Trefnu Gwledig Cymru (W.A.O.S.). Bu ganddo ran fawr yn y cefndir ynglŷn â chynlluniau marchnata amaethyddol, gan gynnwys sefydlu'r Bwrdd Marchnata Llaeth a wnaeth fwy na'r un cyfrwng arall i ddod ag amaethyddiaeth llawr gwlad yng Nghymru (a'r Deyrnas Unedig i gyd o ran hynny) o'i thlodi o 1933 ymlaen.
Cyfrannodd nifer fawr o erthyglau yn ei faes mewn lliaws o gylchgronau, ac mae ei lyfr (gydag Ifor L. Evans; gw. isod) yn 1943 The Agriculture of Wales and Monmouth, yn gyflawn o wybodaeth ar bynciau'r tir rhwng 1867 ac 1939. Cafodd radd M.A. er anrh. yn 1923 a thrwy archddyfarniad yn 1946 gan Brifysgol Rhydychen: fe'i gwnaed yn gymrawd o Goleg Lincoln yn 1947. Yr oedd yn Ynad Heddwch, ac fe'i penodwyd yn C.B.E. yn 1946. Pr. Rhoda Dean Bland yn 1922 a bu iddynt un mab. Bu f. 9 Medi 1953 yn Ysbyty Radcliffe, Rhydychen.
Llywelyn Phillips (1914-81), Aberystwyth