Safodd fel ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Clitheroe yn etholiadau cyffredinol 1931 ac 1935 ond yn aflwyddiannus. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor Bwrdeistref y Barri yn 1931, daeth yn henadur y cyngor yn 1939 a daliodd afael yn ei sedd nes iddo benderfynu ymddeol ym mis Tach. 1945, gan wasanaethu fel maer y Barri yn 1941-42. Gweithredodd hefyd fel Arolygwr Porthladdoedd de Cymru yn 1941-42. Ym Mawrth 1937 dewiswyd ef yn Ynad Heddwch dros sir Forgannwg. Bu hefyd yn Ddirprwy Raglaw'r sir ac yn 1951 fe'i dyrchafwyd yn gadeirydd ynadon Morgannwg. Yn etholiad cyffredinol 1945 etholwyd ef yn aelod seneddol (Llafur) dros etholaeth Canol Bryste. Ailetholwyd ef gyda mwyafrif sylweddol yn 1950, 1951, 1955 ac 1959, a phenderfynodd ymddeol yn 1964. Yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth seneddol i Malaya yn 1948 ac yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Amcangyfrifon yn 1950-51.
Yr oedd yn hanesydd lleol brwd a gweithgar ac yn awdur nifer o weithiau pwysig gan gynnwys Labour's early struggles in Swansea (1949), Let us talk of Barry (1954), Llancarfan: the village of a thousand saints (1957), The story of St. Athan and Aberthaw (1959), I searched for Llantwit Major (1965), St. Donat's Castle and the Stradlings (1966), The Baptists in Barry for 150 years (1967), a Fourteen talks about Barry (1968), Cyhoeddodd yn ogystal nifer o erthyglau ar agweddau ar hanes lleol.
Pr. yn 1911 a bu iddo ef a'i wraig Elizabeth Jane ddau fab a thair merch. Bu ei wraig f. ym mis Ebr. 1969 ac yntau 7 Mai 1969.
Dr John Graham Jones, Aberystwyth