Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BANCROFT, WILLIAM JOHN (1871-1959), chwaraewr rygbi a chriced;; g. 2 Maw. 1871 yn fab i William Bancroft, Carmarthen Arms, Stryd Waterloo, Abertawe, yr hynaf o 11 o blant. Crydd ydoedd wrth ei grefft. Ganwyd ef yng Nghaerfyrddin ond magwyd ef yn nghysgod maes Sain Helen, Abertawe. Chwaraeai dros dîm ieuenctid lleol yr Excelsiors, cyn cael ei gêm gyntaf dros Abertawe ar 5 Hyd. 1889. Ar ôl prin 17 o gemau, ac heb gêm brawf, dewiswyd ef i chwarae dros Gymru yn erbyn yr Alban yn Chwef. 1890 pan anafwyd y dewis cyntaf, Tom England o Gasnewydd. Aeth Bancroft ymlaen i ennill 33 o gapiau yn ddi-dor rhwng 1890 ac 1901, record na thorrwyd tan 1954 gan Ken Jones (Casnewydd). Yr oedd yn gefnwr digymar, a chanddo lygaid craff a dwylo diogel y cricedwr profiadol: treuliai oriau maith yn perffeithio'i gicio, a chic gosb adlam o'i eiddo a enillodd y gêm yn erbyn Lloegr yn 1893, pan gipiodd Cymru'r goron driphlyg am y tro cyntaf erioed. Arweiniodd Gymru i'w hail goron yn 1900. Ef oedd un o'r cyntaf i'w cyflogi fel chwaraewr proffesiynol gan Glwb Criced Morgannwg (a sefydlwyd yn 1888) yn 1895 am ddwy bunt yr wythnos. Bu f. 3 Maw. 1959, yn Abertawe.

Bu ei frawd JACK BANCROFT (1879-1942) yn ei dro yn gefnwr nodedig dros Abertawe a Chymru gydag 13 o gapiau rhwng 1908 ac 1912.

Llyfryddiaeth:

  • J.B.G. Thomas, Great rugger players (1959);
  • David Smith a Gareth Williams, Fields of Praise (1980);
  • J.H. Morgan, Glamorgan County Cricket (1952);
  • S. Wales Evening Post a S. Wales Echo, 4 Maw. 1959.

Awdur:

Yr Athro Ga