BARSTOW, Syr GEORGE LEWIS , (1874-1966), gwas sifil, llywydd Coleg Prifysgol Abertawe;;
g. 20 Mai 1874 yn fab i Henry Clements a Cecilia Clementina (g. Baillie) Barstow yn yr India, y tad yn y gwasanaeth sifil yno. Bu teulu Barstow am ganrifoedd yn amlwg mewn masnach yng Nghaerefrog. Trwy ei briodas ag unig ferch Syr Alfred Tristram Lawrence, Barwn cyntaf Trevethin, ac ymgartrefu yn ymyl Llanfair-ym-Muallt y daeth George Barstow i gysylltiad â Chymru. Wedi graddio yn y dosbarth cyntaf yn nwy ran y Tripos clasurol yn 1895-96, yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, aeth i'r gwasanaeth sifil ac yn 1898 ymsefydlodd yn y Trysorlys. Cyn Rhyfel Byd I bu ganddo ran yn newid tanwydd y llynges o lo i olew. Yn ystod y rhyfel a than 1947 bu'n flaenllaw yn rheolaeth cyflenwi yn y Trysorlys. Yn 1927 cafodd ei wneud yn gyfarwyddwr y llywodraeth ar yr Anglo-Persian Oil Company. Bu hefyd yn gyfarwyddwr Banc y Midland ac yn gadeirydd Cwmni Yswiriant y Prudential. Yng Nghymru cymerodd ddiddordeb arbennig yn yr Eglwys yng Nghymru ac mewn addysg uwch. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am ad-drefnu cyllid yr Eglwys yn ei blynyddoedd cyntaf, a chyfeirio'i gweinyddiaeth ariannol. Yr oedd yn un o lywodraethwyr Coleg Crist, Aberhonddu, ac o 1929 i 1955 bu'n llywydd Coleg Prifysgol Abertawe. Gwnaethpwyd ef yn C.B. yn 1913 a'i ddyrchafu'n farchog yn 1920. Derbyniodd radd LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1937.
Yn 1904, pr. Enid Lilian Lawrence, a bu iddynt ddau fab ac un ferch. Bu f. yn ei gartref, Chapel House, Llanfair-ym-Muallt, ar 29 Ion. 1966.
Llyfryddiaeth:
- Www;
- WwW (1921) a (1937);
- D.N.B., 1961-70.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth