BELL, ERNEST DAVID (1915 - 1959), arlunydd a bardd

Enw: Ernest David Bell
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 1959
Priod: Megan Hinton Bell (née Jones)
Rhiant: Mabel Winifred Bell (née Ayling)
Rhiant: Harold Idris Bell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd a bardd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 4 Mehefin 1915, yn fab i Syr Idris Bell a Winifred (ganwyd Ayling). Cafodd ei addysg mewn ysgol breifat yn Crouch End, Llundain, ac yna yn ysgol Merchant Taylors, lle yr astudiodd y clasuron a derbyn peth hyfforddiant mewn celfyddyd. Bu am bedair blynedd yn y Coleg Celfyddyd Brenhinol ac enillodd y diploma. Ar ddiwedd y cwrs aeth i'r Sudan o dan yr Egypt Exploration Society, a bu'n gweithio yn Sesepi ac Amarah yn 1936-37 ac 1937-38. Ar ôl dechrau'r rhyfel yn 1939 bu am rai misoedd yn Llanfairfechan cyn cael gwaith yn adran cartograffeg y Morlys, yn Bath i gychwyn ac yna yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Dychwelodd i Lundain gyda'r adran, ac arhosodd gyda hi hyd derfyn y rhyfel. Yn 1946 penodwyd ef yn gyfarwyddwr cynorthwyol (celfyddyd) dan Bwyllgor Cymru Cyngor y Celfyddydau, ac yn 1951 yn guradur Oriel Gelfyddyd Glyn Vivian, Abertawe.

Cydweithiodd David Bell â'i dad ar y cyfieithiadau o gerddi Dafydd ap Gwilym a gyhoeddwyd dan y teitl Dafydd ap Gwilym: fifty poems, fel cyfrol xlviii Y Cymmrodor yn 1942. Ef oedd awdur 24 o'r cyfieithiadau. Yn 1947 cyfieithodd i'r Saesneg eiriau Wyth gân werin (Enid Parry). Yn 1953 cyhoeddodd The Language of pictures, llyfr a fwriadwyd (a dyfynnu'r rhagair) nid i ychwanegu at wybodaeth neb am gampweithiau'r byd nac am ddarluniau cyfoes … ond yn hytrach i gyfoethogi profiadau pobl, pan welont ddarlun, trwy iddynt ddeall beth y mae'r arlunydd yn ceisio'i ddweud a sut y mae'n ei ddweud.' Cyhoeddodd The Artist in Wales yn 1957, ymgais i gyffroi ymateb i gelfyddyd yng Nghymru. Yn 1959 cyhoeddodd ei dad 17 o gerddi gwreiddiol David Bell, a gyfansoddwyd rhwng 1938 ac 1954, mewn argraffiad preifat o 65 o gopïau dan y teitl Nubian Madonna and other poems.

Priododd Megan Hinton Jones o Aberystwyth yn 1944, a bu iddynt ddau fab. Pan oedd yn 14 oed cafodd David Bell y clefyd encephalitis lethargica, a bu ei effaith arno tra bu byw. Bu farw 21 Ebrill 1959.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.