Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BEVAN, ANEURIN (1897-1960), gwleidydd ac un o sylfaenwyr y Wladwriaeth Les; g. 15 Tach. 1897 yn 32 Charles Street, Tredegar, Myn., y chweched o ddeg plentyn David Bevan a Phoebe ei wraig, merch John Prothero, gof lleol. Yr oedd David Bevan yn löwr ac yn Fedyddiwr, yn hoff o lyfrau a cherddoriaeth a chafodd ddylanwad sylweddol ar ei fab. Aeth Aneurin Bevan i ysgol elfennol Sirhywi, ond nid oedd yn hoff o'r ysgol a gadawodd yn 1910. Eto benthycai lyfrau o Lyfrgell y Gweithwyr a darllenai'n eang ym meysydd economeg, athroniaeth a gwleidyddiaeth. Dechreuodd weithio dan ddaear yn 1911, profodd ei hun yn löwr medrus a magodd ddiddordeb yng ngweithgareddau'r undebau llafur. Ni bu raid iddo wynebu gwasanaeth filwrol yn ystod Rhyfel Byd I oherwydd nam ar ei lygaid, a daeth yn adnabyddus fel un o wrthwynebwyr y rhyfel. Dewiswyd ef yn gadeirydd cangen leol Undeb y Glöwyr yn 1916.

Yn 1919 enillodd ysgoloriaeth Undeb y Glöwyr a'i galluogodd i dreulio dwy fl. yn y Coleg Llafur yn Llundain lle ehangodd ei orwelion ac y dysgodd sut i ddadlau'n effeithiol. Dychwelodd i Dredegar yn 1921 i wynebu cyfnod o ddiweithdra. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor Dinesig Tredegar yn 1922, sicrhaodd swydd checkweighman mewn pwll glo am rai misoedd ond ymuno â'r di-waith fu ei hanes unwaith eto. Penodwyd ef yn gynrychiolydd gan gangen ei undeb yn ystod streic y glöwyr, 1926, a dangosodd ei hun yn drefnydd medrus a siaradai'n gyson mewn cynadleddau cenedlaethol. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor Sir Mynwy yn 1928 a'r flwyddyn ganlynol yn aelod seneddol Llafur dros etholaeth Glyn Ebwy yn olynydd Evan Davies. Parhaodd i gynrychioli'r sedd hon yn y senedd hyd ei farwolaeth.

Yn fuan profodd ei hun yn ddadleuwr effeithiol yn Nhŷ'r Cyffredin a siaradai'n gyson, yn enwedig ar ddiweithdra a phynciau'n ymwneud â'r diwydiant glo. Yr oedd yn arbennig o hallt ei feirniadaeth ar Neville Chamberlain yn ystod y tridegau. Yn gynnar yn 1939 diarddelwyd ef o'r Blaid Lafur oherwydd iddo gefnogi Syr Stafford Cripps yn y mudiad United Front, ond dychwelodd i'w blaid ym mis Rhagfyr. Gwrthwynebodd y llywodraeth drwy gydol Rhyfel Byd II a beirniadodd Syr Winston Churchill, y Prif Weinidog, ac Ernest Bevin, yn llym. Yn Rhag. 1944 etholwyd ef yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur am y tro cyntaf.

Penodwyd ef yn Weinidog Iechyd yn Llywodraeth Lafur 1945 a gosododd seiliau'r Wladwriaeth Les. Rhoddodd Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946 wasanaeth meddygol a deintyddol yn rhad ac am ddim i bob aelod o gynllun yr Yswiriant Gwladol. Cenedlaetholwyd yr ysbytai a dewiswyd byrddau rhanbarthol i'w llywodraethu. Defnyddiwyd trethi cenedlaethol i gynnal y gwasanaeth. Yn ei frwydr yn erbyn y meddygon hyd 1948 dangosodd Bevan ei hun yn arbennig o amyneddgar ac yn barod i gyfaddawdu. Rhoddodd Deddf Llywodraeth Leol 1948 gyfrifoldebau newydd ar yr awdurdodau lleol, yn arbennig i ofalu am blant a phobl ieuainc. Bu Deddf Cynhorthwy Cenedlaethol 1948 yn gyfrifol am ddileu hen Ddeddf y Tlodion a chyflwyno cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer gwasanaethau lles. Aeth Bevan ati'n ogystal i hyrwyddo atgyweirio llawer o'r difrod a wnaed i dai yn ystod y rhyfel, i ddarparu tai parod a chymorthdaliadau i awdurdodau lleol fel y gallent ddarparu tai i'w rhentu. Yr oedd yn feirniadol o wariant y llywodraeth ar arfau a'i pholisïau tuag at T.U.A. a Rwsia.

Penodwyd Bevan yn Weinidog Llafur yn Ion. 1951, ond ymddiswyddodd yn Ebr. oherwydd anghytundeb â Hugh Gaitskell ynglŷn â'r bwriad i ddechrau codi taliadau o fewn y gwasanaeth iechyd. Casglodd o'i gwmpas nifer o aelodau seneddol a safai i'r chwith yn y sbectrwm wleidyddol a sonnid amdanynt fel Bevanites. Yr oedd yn dal yn boblogaidd ymhlith yr etholwyr ac aelodau canghennau'r blaid Lafur yn y wlad, a pharhaodd yn aelod o'r Shadow Cabinet. Collodd ei le yn y blaid am rai misoedd yn 1955 pan heriodd Attlee oherwydd ei agwedd tuag at arfau niwclear. Pan ymddiswyddodd yr arweinydd yn ystod yr un flwyddyn, safodd Bevan am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ond Gaitskell a enillodd y dydd. Dewiswyd ef yn drysorydd y blaid yn Hyd. 1956 a daeth yn Llefarydd yr Wrthblaid ar faterion y trefedigaethau a pholisi tramor. Yn 1959 teithiodd yng nghwmni Gaitskell i Moscow ac ym mis Hyd. dewiswyd ef yn ddirprwy-arweinydd yr Wrthblaid fel olynydd i James Griffiths. Erbyn hyn yr oedd ei areithiau yn y senedd a'i agwedd yn gyffredinol dipyn yn llai ymosodol. Cyhoeddodd nifer sylweddol o bamffledi ac erthyglau yn enwedig yn Tribune, ac yn 1952 ymddangosodd y gyfrol In place of fear a roes fynegiant i'w gred mewn Sosialaeth ddemocrataidd.

Pr. yn 1934 Jennie Lee, a fu'n aelod seneddol dros North Lanark, 1929-32, a Cannock, 1945-70, ac a safai i'r chwith o fewn y blaid Lafur. Ni bu iddynt blant. Bu. f. 6 Gorff. 1960 yn ei gartref, Fferm Asheridge, Chesham, swydd Buckingham, ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Croesyceiliog.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • D.N.B.;
  • The Times, 7 Gorff. 1960;
  • A. Bevan, In place of fear (1952);
  • Vincent Brome, Aneurin Bevan (1953);
  • John Campbell, Nye Bevan and the mirage of British Socialism (1987);
  • Huw T. Edwards yn Aneurin, 1, rhif 1 (1961);
  • Michael Foot, Aneurin Bevan, 2 gyf. (1962 ac 1973);
  • Mark M. Krug, Aneurin Bevan: cautious rebel (1961);
  • Jennie Lee, This great journey (1963) a My life with Nye (1980);
  • David Llewellyn, Nye: the beloved patrician (d.d.);
  • Kenneth O. Morgan, Labour People: leaders and lieutenants, Hardie to Kinnock (1987).

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth