Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BEYNON, ROBERT (1881-1953), gweinidog (MC), bardd ac ysgrifwr; g. 8 Hyd. 1881 yn yr Offis, Pontyberem, Caerf., mab Thomas ac Anne Beynon. Dechreuodd bregethu yn eglwys Soar, ac addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman, ysgol Pontypridd, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd yn B.A.), a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Ordeinwyd ef yn 1911, a bu'n bugeilio eglwys Carmel, Aber-craf, ym mhen uchaf dyffryn Tawe ar hyd ei oes (1910-53). Pr. Sarah Rebeca Thomas o Drehopcyn, ger Pontypridd, a chafwyd dwy ferch o'r briodas (un yn fabwysiedig).

Fel un o ‘fechgyn’ Watcyn Wyn ymddiddorodd Beynon mewn barddoni, a chyhoeddwyd un o'i bryddestau cadeiriol, Tyred, canlyn Fi, yn 1912. Enillodd goron Eist. Gen. Rhydaman yn 1922 am ei bryddest i'r ‘Tannau coll’. Ceir rhai o'i emynau i blant yn Llyfr emynau a thonau'r plant (1947). Y mae cryn gamp llenyddol ar ei ysgrifau, a gyhoeddwyd yn 1931 dan y teitl Dydd Calan ac ysgrifau eraill (ail arg. 1950); a daeth ei athrylith fel ysgrifwr i'r golwg drachefn pan oedd yn olygydd Y Drysorfa (1939-43). Cyhoeddwyd hefyd ei Detholiad o Lyfr y Salmau (1936), a ddengys yr un gelfyddyd fel llenor caboledig. Ef, a Rhys Davies (un o flaenoriaid Carmel), oedd awduron y gyfrol Hanes Carmel, Abercrâf (1921).

Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn yn y de a'r gogledd, a dotiai'r cynulleidfaoedd ar bertrwydd ei ymadroddion a'i ddywediadau bachog a disglair. Ar gyfrif hynny y mae'n siŵr y penodwyd ef i draddodi'r Ddarlith Davies ar ‘Y ffordd dra rhagorol’ yn 1948; ond nis cyhoeddodd. Etholwyd ef hefyd yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1952), ond bu f., ym mlwyddyn ei lywyddiaeth, ar 12 Chwef. 1953. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Carmel, Aber-craf.

Llyfryddiaeth:

  • Blwyddiadur MC, 1954, 222;
  • T. Beynon, Allt Cunedda (1955), 129;
  • gwybodaeth gan ei dylwyth ym Mhontyberem,
  • ac adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe