Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BEYNON, TOM (1886-1961), gweinidog (MC), hanesydd ac awdur; g. 3 Meh. 1886 yn y Cenfu, Mynydd y Garreg, ger Cydweli, Caerf., mab William ac Elizabeth Beynon. Ar ddiwedd ei dymor yn ysgol cyngor ei ardal aeth i weithio, yn 1903, i Bontyberem, a'i dderbyn yn aelod yn eglwys Soar; yno y dechreuodd bregethu yng ngwres y diwygiad. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn, a Choleg Diwinyddol y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1916 a bu'n gweinidogaethu yn y Tabernacl, Blaengwynfi, Morg. (1916-33), a Horeb a Gosen ger Aberystwyth (1933-51). Pr. 1922, Eleanor Annie Whittaker, o'r Caerau, Maesteg.

Ymddiddorodd yn hanes Cymru, yn arbennig yn hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, ac ysgrifennodd yn gyson i'r Goleuad, Y Drysorfa, Y Traethodydd, ac i'r papurau lleol megis y Llanelly Mercury a'r Welsh Gazette (gw. ‘Llyfryddiaeth T.B.’ yn Cylch Cymd. Hanes MC, cyf. xlvii). Bu'n gydolygydd Y Pair, cylchgrawn y coleg, pan oedd yn y Bala, a golygodd gylchgrawn Cymd. Hanes MC o 1933 hyd 1947, gan gyfrannu llawer iddo. Bu'n aelod o bwyllgor hanes ei gyfundeb o 1926 hyd ei farwolaeth, ac ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor am dymor (1930-60), a cheidwad y greirfa gyfundebol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu'n aelod hefyd o lys y Llyfrgell am lawer blwyddyn.

Ymddiddorodd yn fawr yn y ‘tadau’ Methodistaidd, yn enwedig Howel Harris. Bu'n lloffa'n ddyfal yn nyddiaduron Harris, gan gyhoeddi dyfyniadau helaeth ohonynt yn y cylchgrawn hanes ac yn ei lyfrau. Cyhoeddodd lyfrynnau ar hanes capel y Gyfylchi a Phontrhyd-y-fen (1926), ac eglwys y Morfa, Cydweli (1930); a chyhoeddodd gryn lawer o'i ysgrifau difyr mewn pump o gyfrolau, sef: Golud a mawl dyffryn Tywi (1936); Gwrid ar orwel ym Morgannwg (1938); Treftadaeth y Cenfu a Maes Gwenllian (1941); Cwmsêl a Chefn Sidan (1946); ac Allt Cunedda, Llechdwnni a Mwdlwscwm (1955). Cyhoeddodd y dyfyniadau a gopïodd o ddyddiaduron Trefeca yn Howell Harris, reformer and soldier (1958); Howell Harris's visits to London (1960); a Howell Harris's visits to Pembrokeshire (a gyhoeddwyd gan ei weddw yn 1966). Y mae'r cyfrolau hyn o ddefnydd mawr i'r sawl a fyn wybodaeth am hynt a helynt y diwygiwr o Drefeca. Bu f. 10 Chwef. 1961 yn ei gartref, Disgwylfa, ym Mhenparcau, Aberystwyth, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Mynydd y Garreg..

Llyfryddiaeth:

  • Trys. Plant, 1931, 57-58;
  • Tref. y Cenfu, 174ff. ac Allt Cunedda, 87, 92, 94, 100- 05, 131;
  • Blwyddiadur MC, 1962, 256;
  • Cylch. Cymd. Hanes M.C., 45, 54-6; 47, 29-33;
  • adnabyddiaeth a gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe