BOWYER, GWILYM (1906 - 1965), gweinidog (A) a phrifathro coleg

Enw: Gwilym Bowyer
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1965
Priod: Prydwen Bowyer (née Harrison)
Plentyn: Ann Bowyer
Plentyn: Mair Bowyer
Plentyn: Gwynn Bowyer
Rhiant: Sarah Bowyer
Rhiant: William Bowyer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awduron: Robert Tudur Jones, Ioan Wyn Gruffydd

Ganwyd 7 Chwefror 1906, yn 74a Chapel Street, Ponciau, Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych, yn fab William Bowyer, glöwr, a Sarah ei wraig. Ef oedd y pumed o'u chwe phlentyn. Cafodd ei addysg gynradd yn ysgol y cyngor, Ponciau, yna o 1920 hyd 1928 bu'n gweithio mewn siop groser, profiad a werthfarwogodd yn fawr. Yn y cyfnod hwn bu o dan addysg bellach tan gyfarwyddyd J. Powell Griffiths gweinidog (B. Saesneg), Grenville Williams, athro yn ysgol y cyngor, ac yn arbennig R.J. Pritchard, ei weinidog ym Mynydd Seion (A), Ponciau, a'i cododd i bregethu yn 1923. Derbyniwyd Gwilym Bowyer i Goleg Bala-Bangor, lle'r oedd ei frawd hyn, Frederick, eisioes yn fyfyriwr ers tair blynedd a lle'r oedd John Morgan Jones a J.E. Daniel yn athrawon, 27 Medi 1928, a graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn athroniaeth yn 1932, ac yn B.D. yn 1935 gyda Hanes yr Eglwys ac Athrawiaeth Gristnogol yn brif bynciau.

Cafodd ei ordeinio yn Soar, Cwmclydach, Y Rhondda, 12 Medi 1935, a bu wedyn yn weinidog mewn tair gofalaeth dra gwahanol i'w gilydd: Soar Cwmclydach, 1935-39, y Boro, Llundain, 1939-43, ac Ebeneser, Bangor, 1943-6. Priododd, 1 Hydref 1935, a Prydwen Harrison o Benmaen-mawr a bu iddynt dri phlentyn, Gwynn, Mair ac Ann.

Yn y Rhondda bu'n dyst i argyfwng Cymru yng nghyd-destun cyni'r byd, a phrin oedd y rhai yno a oedd yn gallu dirnad na gwerthfawrogi argyhoeddadau cryfion eu gweinidog, yn arbennig o blaid heddwch ac o blaid y Gymraeg. Wedi symud i'r Boro, cyfnod poenus ac anodd y rhyfel oedd hwnnw - cyfnod y bomio mawr a gwragedd a phlant yn gorfod dychwelyd i Gymru yn wyneb y peryglon fel y bu rhaid i'w briod a'u mab Gwynn wneud. Canfu ym Mangor amgylchiadau mwy cydnaws â'i fwriadau. A phan ddaeth ei dymor yno fel gweinidog i ben, daliodd yn ddiacon gwerthfawr yn Ebeneser.

Yn Hydref 1946 dechreuodd ei waith fel prifathro Coleg Bala-Bangor a daliodd y swydd hyd ei farw ar y 5 Hydref 1965 o ganlyniad i drawiad ar y galon. Hwn oedd cyfnod ei gyfraniad mawr, nid yn unig i'w enwad ond i'w genedl hefyd. Athrawiaeth Gristionogol oedd testun ei ddarlithoedd i'w fyfyrwyr ym Mala-Bangor, a gofalai hefyd am fywyd hostel y myfyrwyr. Deuai rhychwant eang ei diddordebau i'r amlwg yn ei sgwrsio wrth y bwrdd cinio â'r myfyrwyr - o gylchgronau merched i'r ffilmiau diweddaraf yn y sinemau lleol - ac yr oedd wrth ei fodd yn darllen llyfrau ditectif. Trefnwyd ryw Sul ei fod i gyd-deithio â mi (Ioan Wyn Gruffudd) i'w gyhoeddiad, a phan ddeallodd y myfyrwyr hynny, bu tynnu coes y Prifathro wrth y bwrdd bwyd gan ei hysbysu gyrrwr mor beryglus oeddwn!

Prin iawn oedd cynnyrch llenyddol Gwilym Bowyer, er ei fod yn gryn feistr ar arddull Gymraeg gyhyrog a bywiog. Cyhoeddodd Yr Eglwys wedi'r Rhyfel (Pamffledi Heddychwyr Cymru, 1944) ac Ym mha ystyr y mae'r Beibl yn wir? (1954) a rhyw 25 o erthyglau, pregethau ac adolygiadau. Yn y gair llafar oedd ei gryfder. Siaradai'n chwim, yn rymus ac yn groyw ac yr oedd yn bregethwr gyda'r mwyaf poblogaidd a dylanwadol yn ei genhedlaeth. Bu galw mawr arno fel pregethwr ac yr oedd ei barch at y pulpud, at y gynulleidfa ac yn arbennig at y Gwaredwr yn gyfryw fel na safai unrhyw amser i bregethu heb fod ganddo neges a oedd yn ffrwyth myfyrdod gonest a pharatoad disgybledig. Ond fel darlledwr medrus y daeth i sylw cenedlaethol. Ar y radio sain enillodd glust y cyhoedd gyda'i ddatganiadau cryno a'i resymu miniog yn y cyfresi ' Seiat Holi ' (1946-49) a ' Problemau bywyd ' (1957-60) a dangosodd yr un medrusrwydd fel un o gadeiryddion y gyfres ' Codi testun '; a gynhyrchwyd gan gwmni teledu T.W.W. rhwng Medi 1961 a Mawrth 1962. Dywedodd un amdano mai Gwilym Bowyer 'oedd y siaradwr gorau-ar-y-pryd a glywsom erioed.' Ar lawr cynhadledd, mewn trafodaethau radio a theledu, gweithiai ei feddwl chwim mor sydyn - cymaint felly fel mai rhagorach ganddo mewn Seiat Holi fyddai peidio gwybod y cwestiynau ymlaen llaw. Cyfrannodd at yn o agos i gant o ddarllediadau yn ystod ei yrfa a bu'r gwaith hwn yn dreth fawr ar ei adnoddau corfforol.

Fe'i doniwyd â meddwl disglair a thafod chwim. Yr oedd yn gryfach wrth ddadansoddi a beirniadu nag wrth adeiladu. Fel diwinydd gogwyddai at safbwyntiau hytrach yn geidwadol a'r meddylwyr a adawodd fwyaf o'u hôl arno oedd Awstin Fawr, Luther, Kierkegaard a'i athro J.E. Daniel. Yr oedd yn lladmerydd y safbwynt Barthaidd, ac yr oedd unigolyddiaeth Kierkegaard yn werthfawr yn ei olwg ac yn rhoi golau ar lawer peth a ystyriai'n bwysig - ei amheuaeth mawr o bob corff eglwysig, ei bwyslais cyson ar gyfrifoldeb personol, ei amharodrwydd i ymuno ag unrhyw blaid wleidyddol, ei arswyd rhag ymyrraeth y wladwriaeth. Cristionogaeth i Gwilym Bowyer oedd ymlyniad wrth Iesu Grist ac ymlyniad digwestiwn iddo. Mewn materion gwleidyddol cymerai safiad radical. Bu'n heddychwr digymrodedd ar hyd ei yrfa ac yn bleidiwr cadarn i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwnaeth gyfraniad sylweddol at hwyluso'r ffordd i fyfyrwyr diwinyddol ym Mhrifysgol Cymru ddilyn eu cyrsiau a sefyll eu harholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu farw Gwilym Bowyer ym Mangor 5 Hydref 1965 yn 59 oed a chladdwyd ei weddillion, 8 Hydref, yn y Fynwent Newydd, Bangor.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.