Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CECIL-WILLIAMS, Syr JOHN LIAS CECIL (1892-1964), cyfreithiwr, ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a phrif hyrwyddwr cyhoeddi'r Bywgraffiadur Cymreig; g. 14 Hyd. 1892 yn Paddington, Llundain, yn un o ddau blentyn y Dr. John Cadwaladr Williams, meddyg, a Catherine (g. Thomas) ei wraig. (Cymerodd y mab y cyfenw Cecil-Willams drwy weithred newid enw yn 1935.) Hanai'r teulu o Uwch Aled. Addysgwyd ef i ddechrau yn Llundain, ac wedi cyfnod o ryw flwyddyn yn ysgol bentref Cerrig-y-drudion dychwelodd i Lundain a mynd i'r City of London School. Oddi yno aeth i Gaergrawnt (Coleg Gonville a Caius) i ddarllen y gyfraith, a graddio yn M.A., LL.B. Ymrestrodd yn yr Inns of Court OTC yn 1914, a'r flwyddyn wedyn ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan wasanaethu yn Ffrainc a chyrraedd rheng capten. Fe'i clwyfwyd deirgwaith. Yn 1920, fe'i derbyniwyd yn gyfreithiwr a dechreuodd ddilyn ei alwedigaeth yn Llundain, yn gyntaf ar ei liwt ei hun, ac yna mewn partneriaeth. Ymddeolodd yn 1960.

Daeth i'r amlwg yn gyflym ymysg Cymry Llundain fel gŵr o ynni a brwdfrydedd dros bethau Cymreig ac fel trefnydd da. Yn 1934, etholwyd ef yn ysgrifennydd mygedol Anrh. Gymd. y Cymmr. fel olynydd i Syr Evan Vincent Evans (Bywg., 217-8). Daliodd y swydd am bron ddeng mlynedd ar hugain, a dyma waith mawr ei fywyd. Yn rhinwedd rhyw gymaint o incwm preifat, nid oedd yn llwyr ddibynnol ar ei enillion fel cyfreithiwr, ac oherwydd hynny yr oedd bob amser yn barod i roi cyfran helaeth o'i amser i fuddiannau'r Anrh. Gymd. ac achosion diwylliannol ac elusennol eraill. Bu iddo lwyddiant mawr. Llwyddodd i godi aelodaeth y Cymmrodorion i tua dwy fil, llawer ohonynt o wledydd tramor, ac fel ei ragflaenydd denodd i'w rhengoedd nifer da o Gymry amlycaf eu dydd. Yn 1951, ar achlysur dau canmlwyddiant y Gymdeithas, rhoddwyd iddi siarter frenhinol. Yn yr un flwyddyn, urddwyd ef yn farchog a dyfarnodd Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrh. iddo. Er treulio ei holl fywyd bron yn Llundain parhaodd acenion Uwch Aled yn beraidd a rhugl ar ei wefus gydol ei oes. Yr oedd yn ymwybodol iawn o hynafiaeth ac urddas Cymdeithas y Cymmrodorion a manteisiodd ar bob cyfle i osod sêl a delw aruchel arni. Yng ngeiriau Syr Thomas Parry-Williams, a fu am gyfnod yn llywydd y Gymdeithas, defnyddiodd Cecil-Williams swydd ysgrifennydd ‘yn eofn a diflino i hyrwyddo buddiannau a noddi treftadaeth Cymru a'r Gymraeg’.

Os i'r Athro R.T. Jenkins, ynghŷd â Syr John Edward Lloyd a Syr William Davies, y mae'r clod yn ddyledus am gynllun a chynnwys Y Bywgraffiadur Cymreig, y mae'n amheus a fuasai'r gyfrol wedi ei chyhoeddi onibai am ymdrechion Cecil-Williams. Gwrthododd ildio i'r ddadl fod y cynllun yn rhy uchelgeisiol a chostus. Gyda chymorth ei gyd-swyddogion, llwyddodd i godi'r arian, yn bennaf o'r cynghorau sir a chyrff megis y Pilgrim Trust, a sicrhawyd cyhoeddi yn 1953 y gyfrol a gydnabyddir erbyn heddiw yn un o'r llyfrau pwysicaf a ymddangosodd yng Nghymru yn ystod y ganrif hon. Mynnodd drefnu cyhoeddi'r atodiad deng mlynedd cyntaf er mwyn sefydlu cynsail i gyfres barhaol.

Bu'n amlwg mewn nifer o fudiadau diwylliannol ac elusennol. Yr oedd yn aelod o lysoedd Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol (yn aelod o'r Cyngor hefyd) a'r Amgueddfa Genedlaethol. Yr oedd yn ymddiriedolwr Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon, yn aelod o bwyllgor dathlu 350 mlwyddiant talaith Virginia ac o'r Genhadaeth Ewyllys Da i'r Taleithiau Unedig yn 1957. Yr oedd yn llywydd y Southern Olympian Amateur Football League o 1951-59, ac yn 1959 etholwyd ef yn llywydd yr Amateur Football Alliance. Dyfarnwyd medal Hopkins iddo yn Efrog Newydd yn 1957, ac yn 1962 rhoes Anrh. Gymd. y Cymmr. ei anrhydedd uchaf iddo drwy ddyfarnu ei medal iddo. Yr oedd yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd dan yr enw ‘Seisyllt’.

Pr. Olive Mary, unig ferch yr henadur Aneurin O. Evans, Dinbych, yn 1935, a bu iddynt un mab. Bu f. yn Llundain 30 Tach. 1964, a bu'r gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Golders Green, 5 Rhag.

Llyfryddiaeth:

  • Trans. Cymm., 1964;
  • The Times, 1 Rhag. 1964;
  • Lond. Welsh., Ion., 1965;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur: