CEMLYN-JONES, Syr ELIAS WYNNE (1888-1966), gŵr cyhoeddus;
g. 16 Mai 1888 yng Ngwredog, Amlwch, Môn, yn fab i John Cemlyn Jones, cyfreithiwr o Gaerffili, a Gaynor Hannah, merch John Elias Jones — o Benmaenmawr a thrwy ei wraig o Wredog, Amlwch, gŵr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Môn a Rhyddfrydwr selog. Collodd ei dad yn blentyn a chafodd ei addysg yn breifat yn Ysgol Mostyn, Parkgate, swydd Gaer, yn Ysgol Amwythig, ac yn Llundain. Daeth yn fargyfreithiwr. Yn 1910-11 aeth ef a'i fodryb — chwaer ei fam — ar daith o amgylch y byd, yr hen ‘grand tour’, trwy'r Taleithiau Unedig, Canada, Japan, Korea, Tseina, etc. 1912-14 bu'n ysgrifennydd preifat i (Syr) Ellis Jones Ellis-Griffith, A.S. (Bywg., 201) yn y Swyddfa Gartref, a rhwng 1914-18 gwasanaethodd fel capten gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus yn Ne Croydon 1923 ac ym Mrycheiniog a Maesyfed 1929. Gwasanaethodd ar lu o bwyllgorau a chyrff cyhoeddus, e.e. Cyngor Sir Môn o 1919 ymlaen (bu'n gadeirydd 1928-30 ac yn henadur), Cymdeithas y Cynghorau Sir, Pwyllgor Milne ar Gyflenwad Dŵr, Pwyllgor Athlone ar y Gwasanaethau Nyrsio, Pwyllgor Rushcliffe ar Gyflogau Nyrsys, Cyngor Canolog Whitley y Gwasanaeth Iechyd, Cyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Rhwng 1939 ac 1946 bu'n amlwg gyda gwaith y War Agricultural Executive Committee yn sir Fôn. Urddwyd ef yn farchog yn 1941.
Yn 1931 aeth ar daith o 7000 o filltiroedd trwy Rwsia gyda Frank Owen i ddal awyrgylch y wlad wedi'r chwyldro ar gyfer nofel yr oedd y ddau'n cydweithio arni — disgrifiodd y daith yn Y Ford Gron, Medi 1931. Cyhoeddwyd y nofel, Red Rainbow, yn 1932. Ynddi, dan gochl adrodd stori gyffro, ceisiai'r awduron rybuddio'r cyhoedd ym Mhrydain am nerth bygythiol Rwsia.
Pr. yn 1914 â Muriel Gwendolin, merch Owen Owen, Machynlleth a Lerpwl, y perchennog siopau. Ganwyd iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu f. ar 6 Meh. 1966 ac fe'i claddwyd yn Amlwch.
Llyfryddiaeth:
- Www;
- WwW (1937);
- Papurau Gwredog yn Llyfrgell Coleg y Gogledd ym Mangor;
- gwybodaeth gan Miss Gaynor Cemlyn-Jones, Porthaethwy,
- ac Ellis Roberts.
Awdur:
Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor