Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CHANCE, THOMAS WILLIAMS (1872-1954), gweinidog (B) a phrifathro coleg; g. 23 Awst 1872 yn fab i Thomas Chance (bu f. 5 Ion. 1873 yn 29 ml. oed) a Mary (g. Williams; bu f. 15 Awst 1908 yn 79 ml. oed) o Erwyd, Brych. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol Penrhiw, ond oherwydd colli ei dad yn ifanc bu'n rhaid iddo adael yn 11 ml. oed i ennill ei fywoliaeth ei hun a'i deulu am y naw ml. nesaf yn was fferm, ar y cyntaf yn Erwyd ac yna i ffwrdd yn ardal Cathedin. Bedyddiwyd ef 17 Ebr. 1887 yn eglwys Heffsiba, Erwyd, ac ar anogaeth ei weinidog John Morgan dechreuodd bregethu, gan ailgychwyn ei addysg, hynny am ddwy fl. mewn ysgol ramadeg a gynhelid gan Daniel Christmas Lloyd, gweinidog (A), yn ei gartref yn Nhŷ Hampton, Y Clas-ar-Wy, ac wedyn yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle y graddiodd yn B.A. yn 1898 gydag anrhydedd yn y dosbarth I yn yr Hebraeg. Enillodd radd M.A. yn 1900 a gradd B.D. yn 1916. Ord. ef yn 1899 yn weinidog eglwys Saesneg High Street, Merthyr Tudful. Penodwyd ef yn athro rhan-amser, yn darlithio ar Hanes yr Eglwys, yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd, Ion. 1904; ac yn athro llawn a hefyd yn ysgrifennydd ariannol yn 1908. Bu'n brifathro gweithredol y Coleg wedi marw John Morlais Davies yn Ebr. 1928, ond er ei gymeradwyo gan y pwyllgor gwaith i gyfarfod brwd o bron naw cant o gynrychiolwyr eglwysi yng Nghaerdydd ar 20 Medi, colli'r swydd barhaol a wnaeth i Thomas Phillips (1868-1936; Bywg., 718), hynny o ddim ond pedair pleidlais ac yn ôl y farn gyffredin oherwydd ei ddiffyg Cymraeg. Yn dilyn marwolaeth Thomas Phillips, codwyd ef i'r swydd, Gorff. 1936, eithr nid heb gryn ddadlau am fisoedd ar dudalennau Seren Cymru. Parhaodd yn bennaeth hyd at ei ymddeol 30 Meh. 1944 a'i ddynodi yn brifathro emeritws.

Ar wahân i'w alluoedd academaidd, yr oedd ganddo ddawn eithriadol i weinyddu a thrafod busnes, ac ymhlith ei brif gymwynasau yr oedd ei waith yn gosod cyllid y Coleg ar seiliau cedyrn, yn sicrhau rhydd-ddaliad y safle yn rhodd, a gofalu bod y tir a'r arian ar gael i godi'r coleg preswyl y buasai ef ers tro hir yn gwasgu amdano. Bu'n ddeon Cyfadran Ddiwinyddiaeth Prifysgol Cymru, 1928-32, ac ef biau rhan o'r clod yn 1928 am sefydlu Ysgol Ddiwinyddol Unedig yng Nghaerdydd, ac yn 1934 am lunio cwrs diploma i fyfyrwyr gweinidogaethol heb radd.

Bu'n aelod o eglwys Albany Road, Caerdydd, ac yn frwd ei gefnogaeth i waith yr enwad yn y ddinas, e.e. yn gadeirydd y Cardiff Baptist Board am 21 ml. Bu hefyd yn llywydd Cymanfa Saesneg Dwyrain Morgannwg yn 1934-35. Yr oedd ganddo ddiddordeb eirias yng ngwaith cenhadol Christian Endeavour, a bu'n llywydd Undeb Cenedlaethol Cymru yn 1906-07 ac 1923-24, ac yn llywydd Undeb Prydain Fawr yn 1924-25. Ym Meh. 1954, yn deyrnged i'w wasanaeth hirfaith i Gymanfa Saesneg Dwyrain Morgannwg, derbyniodd anrheg ganddi o ddarlun mewn olew ohono'i hun, o waith Alfred Hall, Caerdydd, a gyflwynodd yntau'n rhodd i Goleg y Bedyddwyr. Golygodd a chyfrannodd dair pennod i gofiant un o'i ragflaenwyr, The life of Principal William Edwards … (1934).

Pr., 8 Awst 1900, Mary Maria, merch ei weinidog cyntaf John Morgan (bu f. 8 Medi 1922 yn 82 ml. oed) a Margaret ei wraig (bu f. 14 Ebr. 1924 yn 74 ml. oed), ac yr oedd mab iddynt yn fyw adeg priodas aur ei rieni ond wedi marw o'u blaen. Bu f. 22 Rhag. 1954 yn dilyn triniaeth llawfeddyg yn Ysbyty'r Sir, Henffordd, a chladdwyd ef ddeuddydd wedyn ym mynwent Heffsiba. Bu f. ei briod 22 Gorff. 1956 yn 81 ml. oed.

Llyfryddiaeth:

  • D. Mervyn Himbury, The South Wales Baptist College (1807-1957) (1957), 78, 89 ff.;
  • Adroddiadau Blynyddol Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, yn enwedig 1955, 7, 10-13;
  • Ser. Cymru, 4 Mai, 28 Medi 1928, 5 Meh. 1936, 31 Rhag. 1954 a 7 Ion. 1955;
  • West. Mail, 23-24 Rhag. 1954;
  • Bapt. Times, 6 Ion. 1955;
  • Llawlyfr Bed., 1956, 114-5;
  • Bapt. Hdbk., 1956, 322-3;
  • Www;
  • a gwybodaeth gan y Parchg. W. George Evans, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd,
  • Ivor Hayward, Caerdydd,
  • ac E.C. Davies, Erwyd.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth