CUDLIPP, PERCY (1905 - 1962), newyddiadurwr

Enw: Percy Cudlipp
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1962
Priod: Gwendoline May Cudlipp (née James)
Rhiant: Bessie Cudlipp
Rhiant: William Cudlipp
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Glanville Rosser

Ganwyd 1905, yn fab i William Cudlipp, trafeiliwr masnachol adnabyddus iawn yn ne Cymru, a Bessie ei wraig, Lisvane Street, Caerdydd. Yr oedd yn un o dri brawd enwog ym myd newyddiaduraeth (Reginald, golygydd News of the World, 1953-59; a Hugh, golygydd Sunday Pictorial, 1937-40 ac 1946-49, a chadeirydd Odhams Press, 1960). Addysgwyd Percy, a'i frodyr hefyd, yn Ysgol Gladstone ac Ysgol Uwchradd Howard Gardens, Caerdydd. Dechreuodd weithio gyda'r South Wales Echo fel negesydd a copy boy pan oedd yn 14 mlwydd oed, gan ddod yn ohebydd ymhen dwy fl. Wedi hynny gweithiodd ym Manceinion ar yr Evening Chronicle. Dyma'r adeg y cyfrannodd erthyglau a rhigymau i bapurau Llundain y cymerwyd llawer o sylw ohonynt yn Stryd y Fflŷd. Bu'n newyddiadurwr dros gyfnod o 34 mlynedd, a gadawodd ei ôl ar newyddiaduraeth yn ei benodiad cyntaf fel golygydd trwy feithrin gohebwyr arbenigol mewn maes newyddion estynedig ac iddo gynnwys arbenigol, fformat a fabwysiadwyd gan y mwyafrif o'r papurau cenedlaethol a rhanbarthol. Bu'n feirniad y ddrama a cholofnydd digrifol i'r Sunday News, Llundain, 1925-29, ac yn ysgrifwr arbennig a beirniad ffilmiau i'r Evening Standard, Llundain, 1929-31. Dyrchafwyd ef yn olygydd cynorthwyol yn 1931 ac yn olygydd yn 1933. Dechreuodd ar ei waith gyda'r papurau dyddiol cenedlaethol Prydeinig pan benodwyd ef yn rheolwr golygyddol y Daily Herald yn 1938, ac yna'n olygydd, 1940-53 (gan olynu Francis Williams a ddaeth yn ysgrifennydd y wasg i'r Prif Weinidog, Clement Attlee, yn Downing Street yn 1946). Cyfyngid arno fel golygydd mewn modd a oedd yn groes i'w ewyllys ac a wrthwynebai, ond yr oedd y papur, a oedd bryd hynny'n enau i Sosialwyr y chwith, dan reidrwydd yn gyffredinol i bleidio polisïau a gymeradwyid gan Gyngres yr Undebau Llafur a'r Blaid Lafur. O dan y fath bwysau symudodd i fod yn golofnydd i'r News Chronicle Rhyddfrydol, 1954-56 ac eto yn 1956 i fod yn olygydd New Scientist o'i gychwyniad. Adnabyddid ef yn Stryd y Fflŷd, calon newyddiaduraeth Prydain, fel ysgrifennwr cywir ac ymgomiwr ffraeth a ddynwaredai enwogion yn reddfol, yr hyn a werthfawrogid yn fawr. Darlledai'n fynych ar y radio a theledu ac adlewyrchid ei hoffter o farddoniaeth o'i febyd yn ei gyfrol, Bouverie ballads (1955). Priododd, 1927, â Gwendoline James a bu iddynt un mab. Bu farw 5 Tachwedd 1962.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.