DALTON, EDWARD HUGH JOHN NEALE, BARWN DALTON (a adweinid fel Hugh Dalton; 1887 - 1962), economegydd a gwleidydd

Enw: Edward Hugh John Neale Dalton
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1962
Priod: Ruth Dalton (née Fox)
Rhiant: Catherine Alicia Dalton
Rhiant: John Neale Dalton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: economegydd a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yng Nghastell-nedd, Morgannwg, yn fab i'r Canon John Neale a Catharine Alicia Dalton, 26 Awst 1887. Buasai'r tad yn diwtor i'r brenin George V pan oedd yn Dywysog Cymru, ac yr oedd yn ganon yng Nghapel Sant Siôr yn Windsor o 1885 i 1931 pan fu farw. Yr oedd y fam yn ferch i Charles Evans-Thomas o'r Gnoll.

Addysgwyd Hugh yn Summer Fields, Rhydychen ac Eton cyn mynd i Goleg y Brenin, Caergrawnt, lle y daeth yn junior optime yn rhan gyntaf y tripos mewn mathemateg yn 1909. Yna bu'n astudio economeg o dan A.C. Pigou a J.M. Keynes a chymryd ail ran y Tripos yn y pwnc yn 1910. Yr oedd Rupert Brooke yn un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol. O dan ddylanwad Keir Hardie ymunodd â'r Gymdeithas Fabian. Bu'n fyfyriwr ymchwil ar ôl y rhyfel yn y London School of Economics. Galwyd ef i'r Bar yn 1914 cyn iddo ymuno â'r fyddin a gwasanaethu yn Ffrainc a'r Eidal.

Yn 1923 cyhoeddodd ei Principles of public finance. Erbyn hyn yr oedd wedi troi i fyd gwleidyddiaeth ac yn 1924 cafodd ei ethol yn A.S. dros Peckham. Yn 1929 newidiodd ei etholaeth ac ennill Bishop Auckland a daeth yn gadeirydd y Blaid Lafur yn 1936-37. Yn ystod Rhyfel Byd II penodwyd ef yn weinidog Economic Warfare, a sefydlodd gyfundrefn i hybu gwrthwynebiad mewnol yn y gwledydd a feddiannwyd gan yr Almaen. Yn 1942 symudwyd ef i'r Bwrdd Masnach a thrwy ei ymdrechion sefydlwyd y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Paratôdd ar gyfer cyfnod heddwch drwy gyfeirio diwydiant i'r ardaloedd dirwasgedig.

Gyda buddugoliaeth y Blaid Lafur yn 1945 gwnaethpwyd ef yn Ganghellor y Trysorlys a chymerodd yntau J.M. Keynes i fod wrth ei benelin. Bu'n gyfrifol am ddatblygiadau derbyniol iawn ond at ei gilydd siomedig fu ei yrfa yn y Trysorlys a daeth i ben yn annisgwyl yn 1947 drwy iddo ar funud wan ddatgelu peth o gynnwys ei Gyllideb i ohebydd pan oedd ar y ffordd i'w chyflwyno i'r Tŷ. Erbyn hyn yr oedd yn un o wŷr blaenllaw y Blaid Lafur. Yn 1948 gwnaethpwyd ef yn Ganghellor Dugiaeth Lancaster. Ni safodd am etholiad yn 1959 a dyrchafwyd ef i Dŷ'r Arglwyddi yn 1960. Priododd Ruth, merch Thomas Hamilton Fox, yn 1914 a bu iddynt un ferch a fu farw'n blentyn. Bu yntau farw 13 Chwefror 1962.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.