DANIEL, JOHN EDWARD (1902 - 1962), athro coleg ac arolygydd ysgolion

Enw: John Edward Daniel
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1962
Priod: Catrin Daniel (née Hughes)
Rhiant: Anna Daniel
Rhiant: Morgan Daniel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro coleg ac arolygydd ysgolion
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganwyd 26 Mehefin 1902, ym Mangor, yr hynaf o ddau fab Morgan Daniel (1864 - 1941), gweinidog (A), ac Anna, ei wraig.

Addysgwyd J.E. Daniel ym Mangor a meithrinwyd ef yn y traddodiad clasurol yn Ysgol y Friars. Yn 1919 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a thra oedd yno enillodd yn 1922 radd dosbarth I yn Classical Moderations a'r flwyddyn ddilynol radd dosbarth I mewn Litterae Humaniores a choroni'r gamp hon gyda dosbarth I mewn diwinyddiaeth yn 1925. Yr un flwyddyn crewyd swydd ' cymrodor ' iddo yng Ngholeg Bala-Bangor a chyda marw'r Dr. Thomas Rees, fe'i penodwyd ar 28 Gorffennaf 1926 yn athro cyflawn i ofalu am y cyrsiau mewn athrawiaeth Gristionogol ac athroniaeth crefydd. Yn 1931 fe'i rhyddhawyd o'i waith er mwyn iddo dreulio hanner blwyddyn wrth draed Rudolph Bultmann yn Marburg. Bu'n athro yng Ngholeg Bala-Bangor hyd Ionawr 1946. Erbyn hynny yr oedd wedi ei benodi'n un o arolygwyr ysgolion y Weinyddiaeth Addysg gyda gofal arbennig am addysg grefyddol a'r clasuron a thrigai yn y cyfnod hwn yn y Wig, Morgannwg, ac wedyn yn y Tŷ Gwyn, Bodffari. Fe'i lladdwyd mewn damwain foduron yn ymyl Helygain, Sir y Fflint, 11 Chwefror 1962, a chladdwyd ei weddillion yn y Fynwent Newydd, Bangor. Priododd â Chatrin, merch Rowland Hughes (1870 - 1928), gweinidog (A), a bu iddynt bum plentyn.

Gyda'i gymwysterau academaidd eithriadol, yr oedd Daniel yn ddiwinydd gyda'r medrusaf yn ei genhedlaeth, yn cyfuno gwybodaeth eang, cof diollwng a meddwl dadansoddol o'r radd flaenaf. Daeth yn drwm o dan ddylanwad dysgeidiaeth Karl Barth a Rudolph Bultmann, yn nyddiau cynhyrfus eu hymgyrchoedd cynnar. Cyfranogai o'u hysbryd herfeiddiol a'u beirniadu llym ar y ddiwinyddiaeth a oedd mewn bri ar y pryd, gan greu trwy hynny wrthwynebwyr ffyrnig. Ond Daniel oedd lladmerydd Cymraeg galluocaf yr adwaith yn erbyn y ddiwinyddiaeth ryddfrydol yng Nghymru. Prin iawn, er hynny, oedd ei gynnyrch llenyddol yn y maes. Cyhoeddodd Dysgeidiaeth yr Apostol Paul (1933) a dyrnaid o erthyglau hwnt ac yma. Ni chafodd ei ordeinio ond yr oedd galw mawr am ei wasanaeth fel pregethwr oherwydd grymuster cynhyrfus ei bregethu, yn cyfuno diwylliant eang ac argyhoeddiad eirias.

Yr oedd yn genedlaetholwr cadarn. Daeth i amlygrwydd yn gynnar fel un o arweinwyr Plaid Genedlaethol Cymru a sefydlwyd yn 1925. Ysgrifennai'n gyson i'w phapur, Y Ddraig Goch, ac mewn pedwar etholiad cyffredinol safodd fel ymgeisydd yn ei henw. Bu'n islywydd y Blaid o 1931 hyd 1935 a dilynodd John Saunders Lewis fel ei llywydd yn 1939 a dal y swydd hyd Awst 1943.

Yr oedd Daniel yn nodedig am ei ddiwylliant eang, disgleirdeb eithriadol ei feddwl, grymuster a chyfoeth ei Gymraeg wrth siarad ac ysgrifennu, ei sêl tros bopeth gorau Cymru a thros y Ffydd Gristionogol, yn anad dim.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.