DAVIES, DAVID CHRISTOPHER ('Christy '; 1878 - 1958) cenhadwr, cynrychiolydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yng Nghymru

Enw: David Christopher Davies
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1958
Priod: Margaret Davies (née Parker)
Rhiant: Elizabeth Davies
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr, cynrychiolydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd ar y 16 Gorffennaf 1878 yn Nghlydach, Cwmtawe, yn ail o ddeg plentyn John ac Elizabeth Davies. Gweithiai'r tad yn y gwaith alcan lleol ac yr oedd ganddynt siop groser. Yr oedd yn ddiacon ac yn drysorydd eglwys Calfaria (B). Gweinidog yr eglwys honno oedd T. Valentine Evans (tad Syr David Emrys Evans) a bu ei ddylanwad ef yn drwm ar y bachgen. Magwyd ef ar aelwyd gerddorol a chwaraeai'r tad y trombôn yng ngherddorfa bres Clydach. Cafodd ei addysg elfennol yn yr ysgol genedlaethol. Yn ddeuddeg oed, wedi cyrraedd dosbarth ucha'r ysgol, treuliodd flwyddyn yn siop y teulu cyn cael ei brentisio'n ddilledydd yn Ystalyfera. Yn eglwys Soar yno y bedyddiwyd ef. Ar derfyn ei brentisiaeth, bu'n gweithio yn Abertawe a Chaerdydd cyn ymsefydlu yng ngwasanaeth Colmers yng Nghaerfaddon. Ymaelododd yn eglwys Hay Hill, ac yn 1900 penderfynodd fynd i'r weinidogaeth. Yr wythnos y bu ei dad farw cafodd gyfweliad am le yng Ngholeg Spurgeon. Dechreuodd ei gwrs yno yn Ionawr 1902. Yn ystod gwyliau Nadolig 1904 cafodd brofiad o Ddiwygiad Evan Roberts. Bu'n fyfyriwr-weinidog yn Thorpe-le-Soken, a throdd ei olygon at y meysydd cenhadol, China yn bennaf, ond penderfynodd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (B.M.S.) ei ddanfon i'r Congo. Ar ôl hyfforddiant yn Sefydliad Livingstone a rhai misoedd i wella'i Ffrangeg ym Mrwsel, gadawodd Lundain yn niwedd Awst 1906 a mynd i'w orsaf genhadol yn Yalemba yn y Congo ger aber yr afon Aruwimi. Ymfwriodd i ddysgu ieithoedd y trigolion a pharatoi i gyfieithu'r Testament Newydd i Heso a Lingala. Molembia oedd enw y brodorion arno a mawr oedd eu parch tuag ato. Perffeithiodd ei feistrolaeth ar Heso, ond Lingala oedd yr iaith gyffredin i drigolion blaenau'r Congo, ac i honno y cyfieithodd y Testament ysgrifenedig. Cyfansoddai emynau yn yr ieithoedd a'u canu ar donau Cymreig.

Yn 1919, penderfynodd y Gymdeithas ei symud i Leopoldville, dinas a oedd yn cynyddu'n gyflym. Ei dasg oedd canolbwyntio ar y newydd-ddyfodiad o lwyth y Bangala a siaradai Lingala. Yn 1933, oherwydd gwaeledd iechyd dychwelodd i weithio fel cynrychiolydd y Gymdeithas Genhadol yng Nghymru, a bu'n weithgar arbennig gyda threfniadau ysgolion haf y Gymdeithas mewn gwahanol ganolfannau yng Nghymru cyn ymsefydlu dros gyfnod yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth, ac ar ôl hynny yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn. Yr oedd ei hiwmor iach a'i fwrlwm yn ysbrydiaeth yn yr ysgolion hyn. Ymddeolodd yn 1943, a threuliodd weddill ei oes yn y Mwmbwls, gan ymaelodi yng Nghapel Gomer, Abertawe.

Priododd, yn Nhachwedd 1914, Margaret Parker, diacones yng nghapel (B) Bloomsbury. Bu iddynt ddwy ferch. Bu farw 4 Mai 1958, newydd gael ei ethol yn aelod anrhydeddus o'r B.M.S.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.