DAVIES, WILFRED MITFORD (1895 - 1966), arlunydd

Enw: Wilfred Mitford Davies
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1966
Priod: Ellen Davies (née Rowlands)
Plentyn: Margaret Mitford Williams (née Davies)
Rhiant: Elizabeth Davies
Rhiant: Robert Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Margaret Mitford Williams

Ganwyd 23 Chwefror 1895, ym Mhorthaethwy, Môn, ail fab Robert ac Elizabeth Davies. Symudodd y teulu yn fuan i'r Star, rhwng Llanfair-pwll a'r Gaerwen, ac yno y'i magwyd. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol elfennol Llanfair-pwll ac ysgol y sir, Llangefni. Rhoddodd ei fryd ar fod yn bensaer, ond dryswyd ei obeithion gan y Rhyfel Byd I. Wedi gadael y fyddin, aeth i ysgol gelfyddyd Lerpwl am bedair blynedd cyn dechrau gwaith fel arlunydd masnachol yn y ddinas. Aeth yn ôl i'r Star ar farwolaeth ei dad, a byw a gweithio yno. Tua'r adeg yma- 1923-24 -gofynnodd Ifan ab Owen Edwards iddo gyfrannu lluniau i Cymru'r plant, ac yr oedd cartŵn ' Toodles a Twm y gath ', a ddaeth yn boblogaidd iawn wedyn, ymysg ei gynigion cyntaf i'r misolyn. Dyma ddechrau rhagor na deugain mlynedd o waith i Urdd Gobaith Cymru.

Bu'n gweithio'n helaeth i'r gweisg Cymraeg, lluniau yng nghyfrolau Daniel Owen, Meuryn, E. Tegla Davies, John Ellis Williams , ymysg llawer eraill. Cafwyd argraffiad Llydaweg o Troiou Toudels ha Tom e gaz gan Wasg Ronan, Pleiber-Krist, Llydaw yn 1936.

Yr oedd hefyd yn arlunydd olew a dyfrliw, yn arbenigo mewn golygfeydd o Fôn ac Eryri, a gwelir ei waith mewn cartrefi ledled Cymru. Bu'n gartwnydd i bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg.

Yn 1925 priododd Ellen Rowlands, merch Elias a Margaret Rowlands, Lerpwl, a chawsant un ferch, Margaret. Bu farw 19 Mawrth 1966, ac fe'i claddwyd ym mynwent tref Llangefni.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.