DAVIES, TREVOR OWEN (1895 - 1966), gweinidog (MC) a phrifathro Coleg Trefeca

Enw: Trevor Owen Davies
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1966
Priod: Olwen Jane Davies (née Phillips)
Rhiant: Mary Winifred Davies
Rhiant: Owen Gruffydd Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) a phrifathro Coleg Trefeca
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 20 Tachwedd 1895 yng Nghae Adda, Llanwrin, Trefaldwyn, mab Owen Gruffydd Owen a Mary Winifred Davies, Cae Adda. Yr oedd ei dad yn frawd i Richard Owen, Mynydd Ednyfed (tad ' Dame ' Margaret LLOYD GEORGE). Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ysgol sir Machynlleth, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y clasuron) a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth). Cafodd radd B.Litt. am draethawd ar ' The Augustinian doctrine of grace and free will '. Dechreuodd bregethu yn ei eglwys gartref cyn iddo raddio. Ordeiniwyd ef yn 1925, a bu'n gweinidogaethu ym Methel, Cilfynydd, Morgannwg (1925-26). Penodwyd ef yn is-athro yng Ngholeg Trefeca yn 1926, ac ar farwolaeth y Prifathro W.P. Jones gwasanaethodd fel prifathro'r coleg hyd ei ymddeoliad yn 1964. Priododd, yn 1933, Olwen Jane, merch Benjamin Phillips, gweinidog (MC) Merthyr Cynog, a bu iddynt un mab.

Yr oedd T.O. Davies yn ŵr blaenllaw yn ei gyfundeb ac ym mywyd cyhoeddus sir Frycheiniog. Ef oedd cadeirydd Bwrdd Colegau Unedig ei gyfundeb, ac etholwyd ef yn llywydd Sasiwn y Dwyrain yn 1964. Bu'n aelod o Standing Joint Committee ac o bwyllgor addysg sir Frycheiniog, a dyrchafwyd ef yn ynad hedd yn 1950. Bu'n ddarlithydd am rai blynyddoedd mewn dosbarthiadau addysg bellach dan nawdd colegau Caerdydd, Aberystwyth a Phrifysgol Birmingham. Bu farw 10 Ebrill 1966, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Siloa, Merthyr Cynog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.