DAVIES, DAVID TEGFAN (1883 - 1968), gweinidog (A)

Enw: David Tegfan Davies
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1968
Priod: Sarah Jane Davies (née Davies)
Priod: Anna Davies (née Twining)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Derwyn Morris Jones

Ganwyd 27 Chwefror 1883 yn nhyddyn Capel Bach, plwyf Abergwili, Sir Gaerfyrddin, a'i fagu yno gan ei dad-cu a'i fam-gu, Dafydd a Hannah Dafis. Iddynt hwy, a phobl ardal Peniel, yr oedd yn ddyledus am yr iaith fyw a chyhyrog a siaradai, yn llawn ymadroddion a hen eiriau a gollwyd o'r iaith lafar bellach. Aeth o'r ysgol yn was fferm Rhyd-y-rhaw, Peniel. Derbyniwyd ef yn aelod yng nghapel Peniel (A), a dechreuodd bregethu yno yn Awst 1903 o dan weinidogaeth H.T. Jacob. Aeth i ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ac yna i Goleg Bala-Bangor yn 1905. Ordeiniwyd ef yn weinidog yn Seion, Pontypridd, 13 Medi 1908. Symudodd i'r Addoldy, Glyn-nedd, a'i sefydlu yno Ddydd Calan 1911. Wedi pum mlynedd yno fe'i sefydlwyd yng Nghellimanwydd (Christian Temple) Rhydaman, 13 Medi 1915 lle y bu'n weinidog am hanner canrif. Yr oedd yn Rhyfel Byd I pan ddaeth i Rydaman. Ymroes at y weinidogaeth fugeiliol yn y cylch a barhaodd hyd y diwedd. Gwnaeth gyfeillion o bawb yn Rhydaman; aeth lluoedd ato yn eu gofid, ac aeth yntau at bawb. Poenai lawer am y diweithdra a'r tlodi yn y tri degau, a daeth yn gadeirydd y Distress committee yn y cylch. Pan fabwysiadwyd Rhydaman gan dref Wallasey, yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth a aeth yno i ymgynghori â hwy.

Ymddiddorodd mewn llawer maes. Adwaenai'r sêr wrth eu henwau, a gwyliai hwy trwy ei delisgop o flaen y tŷ ar lawer noson glir. Yr oedd yn gymrawd o'r Gymdeithas Seryddol Frenhinol (F.R.A.S.). Ymddiddorodd yn hynt a helynt y sipsiwn, a gwnaeth gyfeillion o lawer ohonynt. Yr oedd yn awdur pedair cyfrol: O ganol shir Gâr, Cyn dringo'r Mynydd Du, Rhamantwr y De a Cyffro'r hen goffrau sydd yn gyforiog o hen gystrawennau sir Gaerfyrddinsir Gâr, hen goelion, a difyrion cefn gwlad, a'i ddychymyg byw a'i ddawn dweud stori yn amlwg ynddynt. Teithiodd lawer ar gyfandir Ewrop. Ei arfer fyddai llogi lle ar long gargo o Abertawe. Bu ar daith bregethu yn T.U.A. Derbyniodd radd D.D. er anrhydedd (Oslo). Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a thraddododd anerchiad o'r gadair yn 1958 ym Mhwllheli ar y testun ' Parhad y Pentecost '. Un o'i lu cymwynasau hael oedd ei rodd o fil o bunnoedd i Drysorfa Gynorthwyol ei enwad. Yn 1965 dyfarnwyd iddo'r O.B.E. i gydnabod ei wasanaeth dyngarol a'i ddewrder droeon yn achub rhai mewn perygl mewn môr ac afon.

Priododd (1), 10 Tachwedd 1908, Anna Twining, Richmond Terrace, Caerfyrddin (bu farw 1933); priododd (2), yn 1934, Sarah Jane Davies, Wauncefen, Heolddu, Rhydaman. Bu farw 10 Awst 1968 a chladdwyd ef ym mynwent Gellimanwydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.