DAVIES, Syr LEONARD TWISTON (1894 - 1953), noddwr celfyddyd ac astudiaethau bywyd gwerin

Enw: Leonard Twiston Davies
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1953
Priod: Dorothy Savile Davies (née Jackson)
Priod: Mary Davies (née Powell)
Rhiant: M.L. Davies (née Brown)
Rhiant: William L.T. Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: noddwr celfyddyd ac astudiaethau bywyd gwerin
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Dyngarwch
Awdur: Iorwerth Cyfeiliog Peate

Ganwyd 16 Mai 1894, yn fab i William L.T. ac M.L. (ganwyd Brown) Davies, Caer. Yr oedd yn orŵyr i Samuel Davies ' y cyntaf ', gweinidog (EF) a'i wraig Mary (ganwyd Twiston). Ysgrifennodd, yn 1932, gyfieithiad Saesneg o Samuel Davies a'i amserau (1866) o barch i'w hendaid. Fe'i haddysgwyd yn Charterhouse ac ym Mhrifysgol Lerpwl. Priododd (1), yn 1918, â Mary Powell ond cawsant ysgariad; a (2), yn 1924, â Dorothy Savile Jackson o Broughton Park, Manceinion; bu iddynt ddau fab ac un ferch. Treuliodd ddwy fl. gyda chwmni Imperial Tobacco a thair blynedd (1915-18) wedyn yn y fyddin pryd y clwyfwyd ef yn dost nes gorfodi ei ryddhau, gyda theitl capten er anrhydedd. Ar ôl ffermio am gyfnod byr (hyd 1924) yn Swydd Henffordd, symudodd i fyw i Rockfield Park, Trefynwy, lle y bu am weddill ei oes. Bu'n uchel siryf Mynwy yn 1933; yn aelod o gyngor sir Mynwy am flynyddoedd; yn llywydd cyngor cymunedau gwledig Mynwy; yn ynad heddwch, ac yn weithgar mewn nifer o gyfeiriadau eraill yn ei sir. Eithr yn sefydliadau cenedlaethol Cymru yr oedd ei brif ddiddordeb. Gweithredodd fel cadeirydd Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru, fel is-gomisiynydd Ambiwlans S. Ioan yng Nghymru ac fel aelod o lys Prifysgol Cymru. Yr oedd ei wasanaeth a'i haelioni i Lyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dra nodedig. Bu'n drysorydd y Llyfrgell Genedlaethol ac ef ydoedd ei his-lywydd pan fu farw. Bu'n llywydd yr Amgueddfa Genedlaethol ac yn brif symbylydd sefydlu'r Adran Fywyd Gwerin (1936) a arweiniodd at greu'r Amgueddfa Werin Genedlaethol (1947) yn Sain Ffagan. Yr oedd rhestr ei roddion i'r Llyfrgell a'r Amgueddfa yn un faith; yr un pryd gweithiodd yn galed ac yn llwyddiannus i godi safonau cyflogau'r ddau sefydliad. Yn ei flynyddoedd olaf cynrychiolai'r Amgueddfa a'r Llyfrgell ar Gomisiwn Sefydlog Amgueddfeydd ac Orielau Celfyddyd Prydain. Yn 1937 dyfarnwyd iddo O.B.E. a'i urddo'n farchog (K.B.E.) yn 1939. Yr oedd yn is-raglaw Mynwy, yn F.S.A., ac yn 1947 derbyniodd radd LL.D. gan Brifysgol Cymru. Ef oedd awdur Men of Monmouthshire (1933); (gydag Averyl Edwards) Women of Wales (1935) a Welsh life in the eighteenth century (1939); (gyda Herbert Lloyd-Johnes) Welsh furniture: an introduction (1950). Bu farw 8 Ionawr 1953.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.