DEAKIN, ARTHUR (1890 - 1955), arweinydd undeb llafur

Enw: Arthur Deakin
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1955
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd undeb llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 11 Tachwedd 1890 yn Sutton Coldfield, swydd Warwick, yn fab i grydd. Bu farw ei dad pan oedd ef yn blentyn, ailbr. ei fam a symudodd y teulu i fyw ym Merthyr Tudful. Yn 1904 dechreuodd weithio yng ngwaith dur Guest, Keen a Nettlefolds ym Nowlais. Daeth o dan ddylanwad Sosialaeth ac yn enwedig Keir Hardie a arferai annerch cyfarfodydd wrth glwydi'r ffatri. Er iddo weithio oriau meithion, darllenai'n eang a mynychai ddosbarthiadau nos. Yn 1919 fe'i penodwyd yn swyddog o'r Dock, Wharf, Riverside and General Workers' Union, a ddaeth yn ddiweddarach yn Transport and General Workers' Union, a'i bencadlys yn Shotton, Fflint. Yr oedd yn aelod o gyngor sir Fflint am 15 mlynedd, daeth yn henadur o'r cyngor a bu'n gadeirydd arno. Gwasanaethodd hefyd fel ynad heddwch. Dewiswyd ef yn ysgrifennydd cenedlaethol y General Workers' Group yn 1932, ac yn 1935 daeth yn gynorthwywr personol Ernest Bevin, ysgrifennydd cyffredinol y T.G.W.U. Pan ddaeth Bevin yn aelod o'r cabinet yn 1940, Deakin i bob pwrpas a gymerodd ei le o fewn yr undeb. Etholwyd ef yn ysgrifennydd cyffredinol ei hun yn 1945 a bu yn y swydd am 10 mlynedd. Yr oedd yn ddylanwadol hefyd o fewn cyngor cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur a bu'n gadeirydd ar y Gyngres yn 1951-52. Daliodd nifer fawr o swyddi ar bwyllgorau a chyrff cyhoeddus ac yr oedd yn un o gyfarwyddwyr y Daily Herald. Derbyniodd y C.B.E. yn 1943, daeth yn C.H. yn 1949 a dewiswyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1954. Yr oedd yn gymeriad cryf a chadarn a chanddo ddylanwad nerthol o fewn Transport House. Eto yr oedd yn gymedrol, ac ymladdodd yn ddygn yn erbyn y Comiwnyddion a'r rhai eithafol o fewn y Blaid Lafur. Bu farw 1 Mai 1955 yn Ysbyty Brenhinol Leicester chwe mis cyn cyrraedd oed ymddeol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.