Yn 1920 fe'i penodwyd yn bennaeth adran meteleg ac yn ddirprwy-brifathro coleg newydd Prifysgol Cymru yn Abertawe. Dynion ieuainc wedi bod mewn gwasanaeth milwrol ac yn hŷn nag arferol oedd y myfyrwyr cyntaf, ond, gyda chymorth tri chydweithiwr a ddaeth gydag ef o Fanceinion, perswadiwyd hwynt i ymgymryd ag astudiaeth drylwyr a rhai ohonynt yn ddiweddarach i gymryd at waith ymchwil. Gyda phrofiad blaenorol yr athro mewn diwydiant, a'i ddiddordeb dwfn mewn cymhwyso gwyddoniaeth, datblygwyd cydweithrediad cyffredinol a bywiog gyda diwydiannau lleol, yn enwedig dur a phlatiau tun, a arweiniodd i sefydlu grŵp ymchwil gyda chymorth y South Wales Siemens Assocn. Esgorodd hyn ar gyhoeddi llawer cyfraniad ar gynhyrchu llafnau dur a phlatiau tun, yn cynnwys gwaith terfynol ar gyfansoddiad ingotau dur a dylanwad rholio oer trwm ar natur y llafnau gorffenedig.
Etholwyd ef yn brifathro'r coleg yn 1926, ond cadwodd y gadair meteleg a chael pleser mawr mewn trafod, dysgu, ymchwilio, a thraddodi darlithiau a chyhoeddi papurau fel ymryddhad oddi wrth ei ymdrechion grymus i hyrwyddo buddiannau'r coleg. Pleser mawr i gylch eang o'i gyfeillion diwydiannol ac academaidd oedd ei ethol yn F.R.S. yn 1930. Yr oedd ei ddarlithiau yn y 30au cynnar ar adeilaeth aloion eto'n enghraifft o'i allu i gadw ar y blaen i syniadau cyfoes ar bwnc pwysig. Rhoes Rhyfel Byd II ben ar y cynllun mawr i amnewid yr adeiladau dros dro a godwyd yn 1921 y buasai ef mor ddygn ei ymdrech drosto. Mewn cyfnod anodd, a barhaodd bron hyd ei ymddeoliad yn 1947, bu ei arweiniad yn gymorth sylweddol i roi'r coleg mewn sefyllfa ffafriol i fanteisio ar bob cyfle diweddarach i ddatblygu.
Cadwodd ei ddiddordeb mewn meteleg hyd yn oed wedi ymddeol a bu am flynyddoedd yn ymgynghorwr i waith dur mawr Guest, Keen & Nettlefolds. Yr oedd ei bersonoliaeth encilgar a'i betruster i ddatgan ei farn mewn gwrthgyferbyniad llwyr i dystiolaeth ei ddatblygiad, drwy ymdrech bersonol, o fod yn brentis i gyrraedd safon academaidd uchel a chael anrhydeddau uchaf ei alwedigaeth. Gŵr rhadlon ac urddasol ydoedd, a fedrai ennyn brwdfrydedd a chyfeillgarwch parhaol. Teimlwyd ei golled gan lawer pan fu f. 29 Mawrth 1960.
Donald Walter Hopkins, Abertawe