Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS, GWILYM ARTHUR (1881-1963), gweinidog (MC), prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth, ac awdur; g. 31 Mai 1881 yng Nghaernarfon, mab Owen Edwards, gweinidog (MC) brodor o Lanuwchllyn (cefnder Syr Owen M. Edwards), a Mary (g. Jones) ei briod. Ymfudodd y tad i Awstralia i gael adferiad iechyd, ond bu farw'i briod cyn iddi fynd â'i theulu i ymuno ag ef ym Melbourne. Magwyd y teulu — tri o fechgyn-gan ei rhieni hi yn Nolgellau. Addysgwyd Gwilym yn ysgol sir Dolgellau, a dechreuodd bregethu'n weddol ieuanc. Fe'i paratowyd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (graddiodd yno hefyd). Ord. ef yn 1909, a bu'n gweinidogaethu yn Zion, Caerfyrddin (1908-11), Oswald Road, Croesoswallt (1911-17), City Rd., Caerlleon (1917-23), a'r Tabernacl, Bangor (1923-28). Penodwyd ef, yn 1929, yn athro yng Ngholeg y Bala, a bu'n cydweithio yno â'r Prifathro David Phillips hyd 1939. O 1939 hyd 1949 bu'n brifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth. Anrhydeddwyd ef yn 1946 â gradd D.D. gan Brifysgol Caeredin. Pr., 1917, Mary Nesta, merch Richard Hughes, milfeddyg, o Groesoswallt; ganwyd mab a dwy ferch o'r briodas. Wedi ymddeol dychwelodd i Groesoswallt, ac yno y bu f. 5 Hyd. 1963; claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil.

Llanwodd le amlwg iawn ym mywyd ei gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Dwyrain (1951), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1957). Traddododd y Ddarlith Davies yn 1933, ac fe'i cyhoeddwyd yn 1935 dan y teitl Teyrnas Dduw yng ngoleuni syniadau apocalyptig y Beibl. Yr oedd anian y llenor ynddo, ac ysgrifennodd lawer i Cymru ac i gylchgronau ei enwad. Cyhoeddodd, ymhlith pethau eraill, straeon i blant, sef O froydd hud a hanes (1921) a Llyfr y misoedd (1927). Cyhoeddodd hefyd Y Beibl a'i gefndir (1922), Hanes gwareiddiad (1927), Y Beibl heddiw (1932), Athrofa'r Bala (1937), Yr Athrawiaeth Gristnogol (1953). Nodweddid ei waith, fel pregethwr, athro ac awdur gan drefnusrwydd ac eglurder. Ymddiddorodd mewn addysg; bu'n olygydd llawlyfrau Ysgolion Sul ei gyfundeb am flynyddoedd. Ef hefyd oedd golygydd llenyddol Cymdeithas Addysg Grefyddol yng Nghymru, ac ef a ysgrifennodd Maes llafur addysg grefyddol yn ysgolion Cymru (1945-46). Ymddiddorodd hefyd yn Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol dros Gymru, ac ysgrifennodd un o lyfrynnau'r mudiad hwnnw, sef Hamdden yr adolesent yng Nghymru (1929). Cyhoeddodd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Unedig bamffledyn arall o'r eiddo, sef Athrawon ysgol Sul a heddwch y byd (1934). Yr oedd yn ysgolhaig a chanddo feddwl clir, analytig, a rhoddai bwys mawr ar fanylion.

Llyfryddiaeth:

  • WwW (1921), 107;
  • Blwyddiadur MC, 1964, 276;
  • William Morris (gol.), Deg o Enwogion (1965), 77-84;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe