Bu'n filwr yn Ffrainc gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a dyfarnwyd y D.S.O. iddo, cafodd reng is-gyrnol, a'i enwi ddwywaith mewn cadlythyrau. Bu'n chwarae rygbi dros Gymry Llundain a Middlesex. Etholwyd ef yn aelod seneddol (Rh.) dros Aberafon ym mis Rhag. 1918, ond collodd y sedd i Ramsay Macdonald yn 1921. Safodd fel ymgeisydd annibynnol dros Brifysgol Cymru yn 1923, ond George M.Ll. Davies a etholwyd (Bywg. 2, 8). Galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn yn 1921. Ef oedd siryf Ceredigion yn 1942. Yr oedd ganddo ddiddordeb yn y ddrama Gymraeg a chyhoeddodd ddrama Galw'r môr (1923) yn ogystal â chofiant i'w dad, Edwards Castellnedd (1935), ac ysgrifau yn ymwneud â'i alwedigaeth yn yr English and Empire Law Digest, a chyfnodolion eraill.
Pr. yn Llundain 27 Hyd. 1932 Gweno Elin merch hynaf Joseph Davies Bryan (a Jane, g. Clayton), Alecsandria, yr Aifft, un o noddwyr mawr C.P.C. Aberystwyth (gw. o dan BRYAN, ROBERT, Bywg.2, 69-70), a bu iddynt ddau fab a merch. Cartrefodd yn Llwyn, 11 West Road, Kingston Hill, Surrey a bu f. yn ysbyty Surbiton 23 Mai 1960. Claddwyd ei lwch yn Aberystwyth.
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth