EDWARDS, JOHN MENLOVE (1910-1958), dringwr creigiau;
g. 18 Meh. 1910 yn Crossens ger Southport, sir Gaerhirfryn, yr ieuengaf o bedwar plentyn y ficer. Credai fod y teulu Edwards wedi dod o Gymru ond ni wyddai pa bryd: yr oedd y taid hefyd yn offeiriad ac yn sosialydd arloesol. Addysgwyd Menlove yng Ngholeg Feetes cyn mynd i Brifysgol Lerpwl lle graddiodd yn feddyg yn 1933. Yno yn 1930 sefydlodd ef a'i frawd, Hewlett, Y Clwb Dringo Creigiau. Yn fuan daeth yn un o geffylau blaen ail oes aur dringo Eryri. Ef oedd arloeswr ‘tair craig’ Bwlch Llanberis ac awdur llawlyfrau Clwb y Dringwyr ar Gwm Idwal (1936); Tryfan (1937) a'r Lliwedd (1939) ar y cyd â Wilfrid Noyce; a Chlogwyn Du'r Arddu (1942) ar y cyd â J.E.Q. Barford. Yn gryf eithriadol, ymorchestai hefyd fel nofiwr a rhwyfwr mentrus. Hoffai sialens ‘amgylchiadau gwael, craig wael a sgidiau gwael’ ar ddringfeydd llaith fel rhai Clogwyn y Geifr. Nid ymddiddorodd yn yr Alpau. Mawrygir ei ysgrifau prin ar y profiad o ddringo a disgrifiadau cynnil ei lawlyfrau; nid yw ei ychydig gerddi cystal. Cynhwyswyd y rhan fwyaf o'i waith gorau yn y cyfrolau a enwir isod.
Er bod canmol arno fel seiciatrydd yn Lerpwl, rhwng haf 1941 a hydref 1942 ymneilltuodd i Hafod Owen, uwchben Nant Gwynant, er mwyn canolbwyntio ar ochr ddamcaniaethol ei waith. Dychwelodd i swyddi yn Llundain ond ni chymerwyd ei syniadau o ddifrif. Ac yntau yn wrthwynebydd cydwybodol, yn agnostig ac yn wrywgydiwr gwrthodedig, trodd ei unigrwydd yn baranoia ac ymddeolodd i fyw yn ymyl ei chwaer ger Caer-gaint yn 1944. Bu mewn ysbytai meddwl, gan gynnwys Dinbych (1949-50). Ar 2 Chwef. 1958 cymerodd ei fywyd ei hun trwy gymryd potassium cyanide. Gwasgarwyd ei lwch yn ymyl Hafod Owen. Yr oedd wedi ei ethol yn aelod er anrh. o Glwb y Dringwyr ac er bod un neu ddau o'i gyfoedion yn ddringwyr cystal os nad gwell nag ef, â Menlove Edwards yn anad neb y cysylltir naws y 1930au ar greigiau Eryri.
Llyfryddiaeth:
- Geoffrey Sutton a Wilfrid Noyce, Samson, the life and writings of Menlove Edwards (arg. preifat, d.d.);
- Jim Perrin, Menlove: the life of John Menlove Edwards (1985);
- gwybodaeth gan Dr. Emyr Wyn Jones.
Awdur:
Dr Ioan Bowen Rees, (1929-99), Bangor