Wedi marw ei dad teimlodd fod rheidrwydd arno i gymryd at y gwaith o olygu Cymru (1920-27) a Cymru'r Plant (1920-50), gan gychwyn atodiad iddo — Cronicl yr Urdd (1928-33) — yn ogystal â chylchgrawn i ieuenctid, Y Capten (1931-32). Ei lythyr yn rhifyn Ion. 1922 o Cymru'r Plant oedd cychwyn Urdd Gobaith Cymru (Fach). Yr oedd yn weledydd a realydd; yn arweinydd a chanddo'r ddawn i ennill pob math o bobl i'w gefnogi a noddi ei gynlluniau blaengar ac uchelgeisiol. Cychwynnodd wersyll gwyliau yn Llanuwchllyn yn 1928; yn ddiweddarach cafwyd safleoedd mwy parhaol yn Llangrannog (1932) a Glan-llyn (1950). Cychwynnodd eist. flynyddol yr Urdd yn 1929; ei mabolgampau yn 1932; mordaith bleser yn 1933; gwersyll i ddysgwyr yr iaith a chynghrair pêldroed i chwarae am gwpan yr Urdd yn 1941; gwersyll cydwladol yn 1948; a gwersyll Celtaidd yn 1949. Yr un flwyddyn agorwyd Pantyfedwen yn Y Borth, Cer., fel canolfan breswyl i gynnal cyrsiau difyr ar bob math o bynciau y manteisiodd miloedd o ieuenctid ac oedolion arnynt. Derbyniai ddyfeisiadau newydd i'w defnyddio orau ag y medrai er lles Cymru. Tynnai luniau â'i gamera o weithgarwch yr Urdd a dangos sleidiau yn y pentrefi yn ystod y gaeaf; yn 1935, gyda chymorth J. Ellis Williams, gwnaeth y ffilm (rannol lwyddiannus) lafar Gymraeg gyntaf, Y Chwarelwr, ar gyfer sinema deithiol; a bu'n gyfarwyddwr cwmni Teledu Cymru a'r Gororau (T.W.W.), gan ddylanwadu o blaid y Gymraeg ar aelodau'r bwrdd. Trwy ei ymdrechion ef yr agorwyd yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth yn 1939. Ar waethaf pob beirniadaeth ystyriai mai hon oedd y fenter fwyaf llwyddiannus a gwerthfawr y bu'n gysylltiedig â hi. Yn ogystal â'r cylchgronau a enwyd, golygodd A catalogue of Star Chamber proceedings relating to Wales (1929), a rydd ryw syniad o'r maes y buasai wedi dymuno gweithio ynddo pe na bai wedi ymdynghedu i roi o'i orau i'r Urdd. Yr oedd yn gyd-awdur Llyfr y bobl bach (1925) gydag E. Tegla Davies (gw. uchod); awdur Yr Urdd 1922-43 (1943); hunangofiant bychan Clych atgof (1961); a nifer o erthyglau yn cynnwys ‘The Welsh language, its modern history and its present-day problems’ yn Hesperia, 1951, 39-57. Rhoddodd wasanaeth arbennig i lu o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru a Llundain. Bu'n ynad hedd (1941-58) a gweithiodd yn galed gyda Mudiad Senedd i Gymru ar ddechrau'r 1950au. Urddwyd ef yn farchog yn 1947; yn 1956 cyflwynwyd iddo gan yr Urdd ddarlun olew ohono'i hun gan Alfred Janes, a medal aur gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion; a LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1959.
Pr., 18 Gorff. 1923, ag Eirys Mary Lloyd Phillips, Lerpwl, a chartrefu yn Neuadd Wen, Llanuwchllyn hyd 1930, ac yn Aberystwyth o hynny ymlaen. Ganed iddynt ddau fab, Owen a Prys. Bu f. yn ei gartref, Bryneithin, 23 Ion. 1970 a'i gladdu yn Llanuwchllyn.
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth