Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , HUW THOMAS ( 1892 - 1970 ), arweinydd ym myd undebaeth a gwleidydd ;

g. 19 Tach. 1892 ym Mhen-y-ffridd , y Ro-wen , Dyffryn Conwy, Caern. , yr ieuangaf o saith o blant Huw Edwards , tyddynnwr a chwarelwr, a'i wraig. Ychydig o addysg ffurfiol a dderbyniodd, ond fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig a chrefyddol. Yn 1907 , ac yntau'n 14 oed, dilynodd ei dad i weithio yn chwarel ithfaen Penmaen-mawr . Arferai gerdded i'w waith o lethrau Mynydd Tal-y-fan i Benmaen-mawr . Dangosodd rywfaint o ysbryd yr anturiaethwr pan redodd i ffwrdd i'r De i weithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda . Yn Nhonypandy yr oedd yn ystod streic 1911 . Arferai baffio 'n lleol ar y Sadyrnau er mwyn ychwanegu at ei incwm pitw.

Cafodd ei niweidio'n ddrwg yn ystod Rhyfel Byd I , ond dychwelodd i weithio yng nglofeydd a chwareli ithfaen gogledd Cymru lle'r aeth ati i drefnu canghennau o'r T.G.W.U. a'r Blaid Lafur . Fe'i etholwyd yn aelod o gyngor dinesig Penmaen-mawr a bu'n gadeirydd arno. Yn etholiad 1929 gwasanaethodd fel cynrychiolydd Thomas ap Rhys a safodd fel ymgeisydd Llafur yn erbyn D. Lloyd George ( Bywg. 2, 39-40) ym mwrdeistrefi Caernarfon . Tra oedd yn ddi-waith yn 1932 fe'i penodwyd yn swyddog undeb llawn amser pan olynodd Arthur Deakin (gw. uchod) fel ysgrifennydd Cylch Shotton o'r Transport and General Workers’ Union . Gweithredodd fel ysgrifennydd Rhanbarth Gogledd Cymru ac Ellesmere Port o'r T.G.W.U. , 1934-53 . Fe'i dewiswyd yn ynad heddwch dros sir y Fflint .

Daeth yn ffigwr pwysig a dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru o gyfnod llywodraeth Attlee ymlaen. Ac yntau'n adnabyddus yn y gogledd a'r de, ac yn meddu ar brofiad eang o weithgareddau llywodraeth leol yng Nghymru , fe'i dewiswyd yn gadeirydd cyntaf Cyngor Ymgynghorol Cymru yn 1949 . Yn ystod y 9 ml. y bu yn y swydd, cydweithiodd â Syr William Jones (gw. isod) i gynhyrchu adroddiadau pwysig ar ddatganoli ac ar ddiboblogi yn ardaloedd gwledig Cymru . Ymddiswyddodd o'r Cyngor yn 1958 fel protest yn erbyn methiant llywodraeth Macmillan i fabwysiadu argymhellion y Cyngor ynglŷn â phenodiad Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a newidiadau gweinyddol eraill. Bu hefyd yn gadeirydd Bwrdd Croeso Cymru am 15 ml. (a bu'n bennaeth ar ddirprwyaeth i Rwsia ), Pwyllgor Addysg sir y Fflint a Bwrdd Ysbyty Clwyd a Glannau Dyfrdwy . Yr oedd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Television Wales and the West ac o Gyngor Cenedlaethol Darlledu y B.B.C. , o Orsedd y Beirdd (ei enw barddol oedd ‘ Huw Pen Ffridd ’) ac o gyngor yr Eist. Gen. , o Fwrdd Nwy Cymru ac o'r Bwrdd Cynhorthwy Cenedlaethol . Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr Gwasg Gee , Dinbych , ac yn is-lywydd Anrh. Gymd. y Cymm. Disgrifiwyd ef fel ‘Prif Weinidog answyddogol Cymru’ . Ef oedd perchennog Y Faner am ychydig flynyddoedd ar ôl 1956 yn ystod cyfnod tyngedfennol yn hanes y papur. Buddsoddodd arian personol ynddo ac ymladdodd drosto mewn cylchoedd dylanwadol gan sicrhau ei ddyfodol nes ei drosglwyddo i ddwylo Gwasg y Sir , y Bala .

Yr oedd yn Sosialydd pybyr ac yn aelod o'r Blaid Lafur ar hyd ei oes hyd fis Medi 1959 pan ymunodd â Phlaid Cymru , ond dychwelodd i'w hen blaid yn 1965 . Bu'n llywydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg . Gwasanaethodd fel cadeirydd Plaid Lafur sir y Fflint a chadeirydd Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru am flynyddoedd. Eto llwyddai i ennill parch a hyder rhai a safai i'r dde yn y sbectrwm gwleidyddol. Ceisiwyd droeon ei berswadio i sefyll fel ymgeisydd seneddol ar ran y Blaid Lafur , ond gwrthod a wnaeth yn ddi-ffael.

Ymddiddorai mewn barddoniaeth a rhyddiaith . Cyhoeddodd ddwy gyfrol o hunangofiant Tros y tresi ( 1956 ) a Troi'r drol ( 1963 ), ac fe'u cyfieithwyd i'r SaesnegIt was my privilege ( 1962 ) a Hewn from the rock ( 1967 ). Golygodd Ar y cyd: cerddi gan Huw T. Edwards, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones a Rhydwen Williams ( 1962 ).

Anrhydeddwyd ef gan Orsedd y Beirdd a chan Brifysgol Cymru ( LL.D., er anrh. , 1957 ), ond ni wnaeth dderbyn yr M.B.E. a gwrthododd wahoddiad i'w urddo'n farchog yn ystod arwisgo'r Tywysog yng Nghaernarfon , Gorff. 1969 .

Bu f. ei briod Margaret fis Meh. 1966 , a threuliodd ddiwedd ei oes ar aelwyd ei ferch yn Sychdyn . Bu f. 9 Tach. 1970 yn ysbyty Abergele , a llosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Pentrebychan , Wrecsam . Rhoddwyd ei bapurau ar adnau yn y Llyfrgell Genedlaethol .

Ffynonellau:

  • Alan Butt Philip , The Welsh question nationalism in Welsh politics, 1945-1970 (Caerdydd, 1975) ( 1975 );
  • H.T. Edwards , ‘Why I resigned’, Wales , Tach. 1958 , a'i hunangofiannau;
  • The Times , 11 Tach. 1970 ;
  • Western Mail , 11, 13 a 16 Tach. 1970 ;
  • The Liverpool Daily Post , 10 Tach. 1970 ;
  • Baner ac Amserau Cymru , 12 Tach. 1970 ;
  • D. Ben Rees (gol.), Cymry adnabyddus, 1952-1972 (Lerpwl, 1978) ( 1978 );
  • idem . (gol.), Arolwg 1970 (Abercynon, 1971) ( 1971 );
  • Portreadau'r Faner , i, ( 1957 ), 19

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997