Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS, FANNY WINIFRED (1876-1959), athrawes, llenor plant a dramodydd; g. 21 Chwef. 1876 ym Mhenrhyndeudraeth, Meir., yn chwaer i'r bardd Gwilym Deudraeth (Bywg., 188) a'r ieuengaf o'r deuddeg plentyn a aned i William Edwards, master mariner, a'i wraig Jane (g. Roberts). Addysgwyd hi yn ysgol elfennol Penrhyndeudraeth lle y bu wedyn fel disgybl-athrawes ac yna'n athrawes hyd nes iddi ymddeol fis Rhag. 1944 ar ôl cyfnod o dros hanner canrif o wasanaeth.

Sylweddolodd o'i dyddiau cynnar fel athrawes fod prinder dybryd o lenyddiaeth addas yn y Gymraeg ar gyfer plant, a hyn a barodd iddi gychwyn ysgrifennu storïau byrion i'w darllen i'w disgyblion. Digwyddodd (Syr) O.M. Edwards (Bywg., 179-80) ei chlywed wrth ei gwaith pan oedd ar ymweliad â'r ysgol a mynnodd ganddi gyhoeddi'r storïau hyn. Yr anogaeth hon a esgorodd ar ei gyrfa lwyddiannus iawn fel llenor plant — gyrfa a barhaodd yn ddi-fwlch am yn agos i 60 ml. Cyhoeddodd gyfanswm o dros 150 o storïau yn Cymru'r Plant yn unig yn gyson o 1902 ymlaen. (Ymddangosodd ei dwy nofel fer, Cit (1908) a Dros y gamfa (1926), yn wreiddiol fel storïau cyfres yn y misolyn hwnnw). Cyfrannodd hefyd i Cymru (O.M.E.), Y Drysorfa, Y Winllan a chyhoeddiadau enwadol eraill. Cyhoeddodd bum llyfryn: Dadleuon buddugol (1925); Adroddiadau i fabanod (1934); Alsi a'r Tylwyth Teg a storïau eraill (1951); Ding Dong Ding — chwaraeon ac adroddiadau i blant (1951) a Siani Lwyd — chwaraeon ac adroddiadau i blant (1951). Meddai ar ddawn naturiol y gwir storïwr ac yn ddi-ddadl llanwodd ei llu cyhoeddiadau fwlch mawr ym myd ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer plant am flynyddoedd lawer. Cyhoeddodd hefyd 17 o ddramâu byr, un act, y mwyafrif ohonynt ar gyfer plant: Tŷ Anti Melvina (1931); Drama Meredydd (1931); Neli a'i thegannau (1931); Y Te parti (1931); Dewis het (1932; cyfieithwyd i'r Saesneg gan Margaret Rosser, 1951); Gwarchod (1932); Y Darlun (1933); Ail feddwl (1935); Y Bastai (1936); Cofio doe (1942); Y Spectol (1942); Y Newydd (1943); Tynnu llun (1945); Chwarae teg (1947); Cyllell boced Tomi (d.d); Y Tecell copr (1950); Bocs tin (1950). Enillodd ddwywaith yn yr Eist. Gen. a bu'n feirniad ei hunan yn Eist. Gen. Dolgellau, 1949. Cynhwysodd T.H. Parry-Williams stori o'i heiddo yn ei gyfrol Ystorïau heddiw (arg. cyntaf 1938). Cyflwynwyd ‘Gwobr Goffa Syr O.M. Edwards' iddi yn Eist. Gen. Llanrwst, 1951, i gydnabod ei gwasanaeth nodedig a diflino i Urdd Gobaith Cymru a thros lenyddiaeth Gymraeg i blant. Rhoddodd wasanaeth ffyddlon yn yr un modd i eglwys Nasareth (MC), Penrhyndeudraeth, ac yn arbennig i'r Ysgol Sul yno ar hyd ei hoes. Bu'n weithgar hefyd gydag Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. Yr oedd yn aelod o gyngor Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd hyd ei marwolaeth a chyhoeddodd yn ei Cylchgrawn (1951).

Ni bu'n briod. Bu f. yn Ffestiniog 16 Tach. 1959 a chladdwyd hi ym mynwent Nasareth, Penrhyndeudraeth.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan ei nai, Trefor Edwards, Llundain;
  • Trys. Plant, 90 (1951), 52-4;
  • Baner, 3 Rhag. 1959, 26 Mawrth 1976;
  • Y Goleuad, 6 Ion. 1960;
  • Herald Cymr., 3, 10 Ebr. 1961.

Awdur:

Arwyn Lloyd Hughes, Llandaf