ELLIS, THOMAS IORWERTH (1899 - 1970), addysgydd ac awdur

Enw: Thomas Iorwerth Ellis
Dyddiad geni: 1899
Dyddiad marw: 1970
Priod: Mary Gwendoline Ellis (née Headley)
Rhiant: Annie Jane Ellis (née Davies)
Rhiant: Thomas Edward Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Ganwyd 19 Rhagfyr 1899 yn Llundain, wyth mis wedi marw'i dad, T.E. Ellis, A.S. Ei fam oedd Annie, merch R.J. Davies, Cwrt-mawr, Llangeitho, Ceredigion. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Aberystwyth, ysgol ragbaratoawl Orley Farm, Harrow, ysgol Westminster (gydag Ysgoloriaeth Frenhinol), Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (gydag ysgoloriaeth agored yn y clasuron), Coleg Iesu, Rhydychen (gydag ysgoloriaeth Gymreig yn y clasuron). Graddiodd B.A. 1920, B.A. (Rhyd.) 1924, M.A. (Rhyd.) 1927, M.A. (Cymru) 1930. Gwasanaethodd yn y fyddin gyda'r Magnelwyr Brenhinol, 1918. Bu'n athro'r clasuron yn Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Caerdydd, 1924-28; darlithydd yn y clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, 1928-30; prifathro ysgol sir y Rhyl, 1930-40; darlithydd yn y clasuron, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, 1940-41; darlithydd yn y clasuron, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1941-46.

Ar ddechrau Rhyfel Byd II penodwyd ef yn ysgrifennydd mygedol Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru, y mudiad a ddaeth yn 1941 yn Undeb Cymru Fydd. Parhaodd yn ysgrifennydd hyd 1967. Bu'n uchel siryf Ceredigion 1944-45. Yr oedd yn aelod o lys Prifysgol Cymru, o lys a chyngor Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac o lys a chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu'n warden Urdd y Graddedigion, 1943-47, yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac o'r Corff Cynrychioli. Bu'n drysorydd Cyngor Eglwysi Cymru, 1961-66, ac yn aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1967. Dyfarnwyd O.B.E. iddo yn 1968.

Yr hyn a ddaeth ag ef i amlygrwydd ym mywyd Cymru oedd ei ymroddiad gyda gwaith Undeb Cymru Fydd. Ef oedd yr arweinydd, yn ogystal â bod yn ysgrifennydd. Ymwelai'n fynych â Thy'r Cyffredin a cheisio cael yr aelodau Cymreig, o bob plaid, i warchod buddiannau Cymru. Teithiodd Gymru 'n annerch cyfarfodydd i oleuo pobl ar faterion megis darlledu, teledu, addysg Gymraeg ac ad-drefnu llywodraeth leol. Ymwelai'n gyson â'r cymdeithasau Cymreig yn Lloegr, a chychwynnodd gyfnodolyn-cyswllt, Yr Angor, iddynt.

Golygodd dair cyfrol The Letters of T.C. Edwards (1952-53). Cyhoeddodd Cofiant T.E. Ellis (cyf. i, 1944; ii, 1948), Cofiant J.H. Davies (1963), Cofiant Ellis Jones Griffith (1969); ac Ym mêr fy esgyrn (1955), llyfr o erthyglau ar faterion Cymreig cyfoes. Cyhoeddodd The Development of higher education in Wales (1935) a phamffledyn Blind guides? (1942) o dan y ffugenw ' Timothy Stone ', yn ymwneud â dyfodol Prifysgol Cymru. Yr oedd yn aelod o'r comisiwn a sefydlwyd yn 1960 i arolygu dyfodol gweinyddiad Prifysgol Cymru. Bu'n llywydd cymdeithas cyn-fyfyrwyr Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1942.

Daeth o dan ddylanwad Mudiad Cristionogol y Myfyrwyr yn y coleg yn Aberystwyth, gweithredodd ar y pwyllgor canolog, a bu'n ysgrifennydd y Pwyllgor Cymreig, 1923-24. Bu'n aelod gweithgar o Urdd y Deyrnas, gan ysgrifennu erthyglau i'r Efrydydd. Yr oedd yn aelod o gyngor The Institute of Christian Education ac o adran Gymreig y Mudiad. Ym mis Awst 1921 aeth i wersyll cyntaf Mudiad Gwersyll Bechgyn Ysgol Cymru, a sefydlwyd ar linellau gwersylloedd Mudiad Cristionogol y Myfyrwyr. Yr oedd yn arweinydd wrth reddf; bu'n weithgar gyda'r Mudiad am flynyddoedd a chadwodd mewn cysylltiad ag ef ar hyd ei oes. Bu'n arwain bechgyn i'r Alban a'r cyfandir yn ogystal â Chymru. O'i brofiad helaeth yn teithio Cymru ar droed, ar feisigl ac mewn car modur y deilliodd ei ysgrifau taith, yn y Ford gron, i ddechrau, ac yna yn ei gyfrolau Crwydro Ceredigion (1952), Crwydro Meirionnydd (1954), Crwydro Maldwyn (1957), Crwydro Mynwy (1958), Crwydro sir y Fflint (1959), Crwydro Llundain (1971), a Dilyn llwybrau (1967).

Bu'n ddarlledwr cyson yn Gymraeg a Saesneg ac yn aelod o dîm Cymru Round Britain Quiz (B.B.C.) am 20 mlynedd. Ysgrifennai ar gyfer y radio a'r teledu a chymryd rhan mewn cyfresi teledu a rhaglenni cyffredinol. Lluniwyd y gyfrol Ateb parod (1971) o gystadleuthau holi ar y teledu. Cwestiynau ar wybodaeth gyffredinol sydd yn Canllawiau (1942), a ymddangosodd gyntaf yn Y Faner. Yn ei ysgrif yn Credaf (gol. J.E. Meredith; 1943) mae'n egluro sut y troes o fod yn aelod gyda'r MC i fod yn Eglwyswr. Cafodd fedydd esgob yn Llanelwy ym mis Tachwedd 1936, a'r flwyddyn ddilynol trwyddedwyd ef yn ddarllenydd lleyg. Bu'n gyfrannwr cyson i'r Llan ac yn ysgrifennydd Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig am gyfnod. Ysgrifennai i'r Haul (dan yr enw 'Timothy Stone', gan amlaf), y Llenor, Barn, etc., a chyfrannodd lawer o ysgrifau i'r Bywgraffiadur

Priododd, 20 Ebrill 1949, Mary Gwendoline Headley, a bu iddynt fab a merch. Bu farw yn ei gartref, 4 Laura Place, Aberystwyth, 20 Ebrill 1970, a'i gladdu ym mynwent Llanfair, Harlech.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.