EVANS, Syr DAVID EMRYS (1891 - 1966), addysgydd a chyfieithydd

Enw: David Emrys Evans
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1966
Priod: G. Nesta Evans (née Jones)
Rhiant: Tom Valentine Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgydd a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 29 Mawrth 1891, mab T. Valentine Evans, gweinidog (B), Clydach, Morgannwg. Cafodd ei addysg yn ysgol sir Ystalyfera, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Lladin yn 1911 a Groeg yn 1912. Cafodd radd B.Litt. Rhydychen o Goleg Iesu, ac etholwyd ef yn gymrawd o Brifysgol Cymru. Bu'n athro yn ysgol uwchradd y Pentre, Cwm Rhondda, ac ysgol uwchradd Longton am ysbeidiau byrion. Yn 1919 penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn y clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, ac yn athro'r clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, yn 1921. Yn 1927 dychwelodd i goleg Bangor fel prifathro, ac yno y bu nes ymddeol yn 1958. Gwasanaethodd fel is-ganghellor Prifysgol Cymru bedair gwaith - yn 1933-35, 1941-44, 1948-50, 1954-56. Bu'n gadeirydd y Cyngor Ymgynghorol ar Addysg (Cymru) 1944-46, a'r Cyngor Darlledu i Ysgolion (Cymru); yn ddirprwy-gadeirydd y Comisiwn ar Lywodraeth Leol yng Nghymru, 1959-62; yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymreig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac o Bwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Addysg Brifysgol yn Dundee, 1951-52. Cafodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Lerpwl, a rhoed iddo ryddfreiniaeth dinas Bangor. Dyrchafwyd ef yn farchog yn 1952.

Cyhoeddodd Syr Emrys y llyfrau a ganlyn: Amserau'r Testament Newydd (1926), Crefydd a chymdeithas (1933), Y clasuron yng Nghymru, darlith flynyddol y B.B.C. (1952), a The University of Wales, a historical sketch (1953) ond ei gyfraniad pennaf oedd y gyfres o gyfieithiadau o weithiau Platon : Amddiffyniad Socrates (1936), Phaedon (1938), Ewthaffron: Criton (1943), Gorgias (1946) a Y Wladwriaeth (1956). Yr oedd Syr Emrys wedi darllen yn helaeth yn Gymraeg ac wedi ennill cryn feistrolaeth ar yr iaith. Byddai'n ysgrifennu'n goeth gan dueddu i ddefnyddio ffurfiau a chystrawennau henaidd, a thrwy hynny roi urddas ar ei arddull, ond yr oedd hynny'n gweddu i'r cyfieithiadau o'r Roeg, ac yn gweddu hefyd, yn ôl y safonau a dderbyniwyd ar y pryd, i'r cyfieithiadau o lyfrau'r Testament Newydd a gynhyrchwyd dan nawdd y brifysgol. Yr oedd Syr Emrys yn aelod o'r panel a oedd yn gyfrifol am Efengyl Mathew, Efengyl Luc a Llyfr yr Actau. Gwnaeth beth gwaith hefyd ar y cyfieithiad o'r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1975. Fel gweinyddwr yr oedd ganddo ddawn i weithredu'n dawel ond yn gadarn.

Priododd G. Nesta Jones, Pontypridd, yn 1927, a bu iddynt fab a merch. Bu farw 20 Chwefror 1966.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.