EVANS, WILLIAM ('Wil Ifan', 1883 - 1968), gweinidog (A. Saesneg), bardd a llenor yn Gymraeg a Saesneg

Enw: William Evans
Ffugenw: Wil Ifan
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1968
Priod: Nesta Wyn Evans (née Edwards)
Plentyn: Nest Evans
Plentyn: Mari Glyn Jones (née Evans)
Plentyn: Brian Evans
Plentyn: Elwyn Evans
Rhiant: Mary Evans (née Davies)
Rhiant: Dan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A. Saesneg), bardd a llenor yn Gymraeg a Saesneg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gerallt Jones

Ganwyd 22 Ebrill 1883 yng Nghwm-bach, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, mab Dan Evans, gweinidog (A) Hawen a Bryngwenith wedyn, a golygydd Y Celt am gyfnod, a Mary (ganwyd Davies) o Gwm-bach, Llanwinio. Graddiodd (B.A., 1905) ym Mhrifysgol Cymru, a bu hefyd yng Ngholeg Manchester, Rhydychen. Gwr galluog ydoedd, eithr nid awyddai am ddisgleirdeb addysg, ac er ei fod yn bregethwr coeth, efengylaidd, ni chwenychai fynd i 'gyrddau mawr'. Yn wir, gwrthodai gyhoeddiadau felly, eithr yr oedd yn anwylyn pobl ei ofalaethau. Gwasanaethodd fel gweinidog (A) yn Nolgellau, 1906-09, Pen-y-bont ar Ogwr, 1909-17, Richmond Road, Caerdydd, 1917-25, a Phen-y-bont drachefn, 1925-49. Fe'i gwnaed yn Pastor Emeritus gan ei hen eglwys dros weddill ei oes. Priododd â Nesta Wyn, merch John a Catherine Edwards, Eirianfa, Dolgellau, 28 Rhagfyr 1910 a bu iddynt bedwar o blant: Elwyn, Mari, Nest a Brian. Bu ef farw 16 Gorffennaf 1968.

Ymddisgleiriodd fel un o feirdd a llenorion mwyaf amryddawn Cymru. Yr oedd yn ddramodydd, newyddiadurwr, darlledwr, darlithydd, bardd telynegol o'r awen wir yn Gymraeg a Saesneg; yr oedd hefyd yn arlunydd campus ac yn gerddor. Enillodd rai o brif wobrau eisteddfodau taleithiol Cymru a choron yr Eisteddfod Genedlaethol am bryddestau deirgwaith: Y Fenni, 1913 ('Ieuan Gwynedd'); Penbedw, 1917 ('Pwyll pendefig Dyfed'); a Phwllheli, 1925 am ei gân enwocaf, 'Bro fy mebyd'. Beirniadodd droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n Archdderwydd Cymru yng Ngorsedd y Beirdd, 1947-50. Yr oedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ymysg ei gyhoeddiadau niferus ceir cyfrolau o gerddi: Dros y nyth (1913), Plant y babell (1922), Haul a glaw [ 1938 ], O dydd i ddydd (1927), Y winllan las (1936), A quire of rhymes (1943), Unwaith eto (1946), Difyr a dwys (1960); dramâu: Etifedd Arberth [ 1937 ]; ac ysgrifau: Here and there (1953), Y filltir deg (1954), Colofnau Wil Ifan (1962).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.