Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FAGAN, THOMAS WALLACE (1874-1951), cemegydd amaethyddol; g. 4 Chwef. 1874 yn Nhal-y-sarn, Arfon, yn fab James Wallace a Katherine Fagan. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol, ysgol Denstone, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, a graddiodd yn 1898. Bu am gyfnod byr yn athro cemeg yn ysgol uwchradd Abertyleri (ei olynydd yn y swydd honno oedd Thomas Jacob Thomas, ‘Sarnicol’ (Bywg. 2, 56)) ac yna aeth i astudio gyda'r athrawon Dobbie a Winter yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng ngholeg amaethyddol Harper Adams, swydd Amwythig, yn 1904, ac ar ôl hynny bu'n ddarlithydd yn adran amaethyddol Prifysgol Caeredin. Yn 1919 fe'i hapwyntiwyd ar staff Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel cynghorwr mewn cemeg amaethyddol dan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth dros siroedd cylch y coleg. Daeth yn bennaeth adran cemeg amaethyddol y coleg yn 1924, yn olynydd i J. Jones Griffith. Fe'i dyrchafwyd yn Athro yn 1931 ac ymddeolodd o'r swydd honno yn 1939.

Mewn cydweithrediad â Bridfa Blanhigion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng 1919 ac 1939 daeth Fagan yn un o wyddonwyr penna'r deyrnas ynglŷn â chemeg glaswellt. Yr oedd yn arloeswr yn y maes hwn ac y mae ei erthyglau, a gyhoeddwyd gan mwyaf yn y Welsh Jnl. of Agric., yn brawf o'i allu, ei ymroddiad a'i arweiniad fel gwyddonydd amaethyddol. Bu ei ddadansoddiadau manwl a chywir ef o werth amhrisiadwy i fridwyr planhigion, ac yn ôl R.G. Stapledon (gw. isod) fe osododd Fagan sylfaen sicr ar gyfer deall y ffactorau aneirif sy'n dylanwadu ar werth maethol y porfeydd a'r meillion a phlanhigion eraill mewn tir glas. Parhaodd yn ymchwiliwr diwyd hyd ddiwedd ei oes, ond ni chafodd y clod dyladwy am ei waith arloesol, a hynny, fe ddichon, am ei fod yn ŵr swil wrth natur ac yn amharod i seinio clodydd ei waith ymchwil ei hunan.

Pr. Helena Teresa Hughes, a bu iddynt un mab. Bu f. yn Aberystwyth, 10 Chwef. 1951, a'i gladdu ym mynwent y dref.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan J.H.W. Fagan;
  • Jnl. Agr. Soc. U.C.W., 1951;
  • Richard Phillips, Pob un â'i gŵys (1970);
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Llywelyn Phillips (1914-81), Aberystwyth