Yn ystod y 32 ml. y bu'n Llyfrgellydd Caerdydd parhaodd bolisïau goleuedig a blaengar ei ragflaenydd. Adeiladwyd dwy gangen newydd (Gabalfa 1928, a Threlái, helaethwyd 6 changen hŷn, darparwyd neuaddau i blant lle nad oedd un o'r blaen a sefydlwyd canolfannau darllen cyhoeddus mewn ysgolion yn Nhrelái, Llanisien, gogledd Llandaf a Rhymni at wasanaeth rhanbarthau a ddaeth dan awdurdod y ddinas wedi newid ffiniau. Yn 1925 darparwyd adran rhwymo papurau a chylchgronau a thrwsio ac adnewyddu llsgrau a llyfrau prin yn y Llyfrgell Ganol. Erbyn 1940 yr oedd adran fenthyg y Llyfrgell Ganol wedi ei had-drefnu'n llwyr. Pan drosglwyddwyd i'r Amgueddfa Genedlaethol gasgliadau Amgueddfa Caerdydd a gedwid cyn hynny ar lawr uchaf y Llyfrgell Ganol penderfynwyd defnyddio'r gofod yn 1923 i sefydlu ystafell ymchwil at wasanaeth darllenwyr casgliadau enfawr y llyfrgell o lsgrau., dogfennau a llyfrau cynnar prin. Bu'r ddarpariaeth hon ynghyd ag adeiladu ystafell gadarn a diogel rhag tân yn symbyliad i Feistr y Rholiau yn 1931 gydnabod Llyfrgell Ganol Caerdydd yn ystorfa swyddogol i gofnodion hanesyddol. Yr un pryd gweithredwyd yn eiddgar y polisi o neilltuo rhan o'r gronfa lyfrau i brynu llsgrau., dogfennau, printiau, a llyfrau prin. Rhestrodd N.R. Ker yn ei Medieval Manuscripts in British libraries (1992) 32 eitem werthfawr a bwrcaswyd gan y llyfrgell rhwng 1920 ac 1936. Sicrhaodd Farr hefyd gymwynaswyr i roi eitemau neu gyfrannu arian i brynu casgliadau gwerthfawr. Felly y cafwyd llsgrau. Havod gydag arian a roddwyd gan Edgar Evans o Drelái yn 1918.
Farr a'i staff biau'r clod am drefnu Gwyliau Llyfrau Cymru a gynhelid yn neuadd y ddinas bob blwyddyn adeg Gŵyl Ddewi o 1930 i 1939. Arddangosid cynhyrchion cyhoeddwyr Cymreig a llyfrau a llsgrau. o gasgliadau Cymreig y llyfrgell yn ogystal ag eitemau gwerthfawr a fenthycid o lyfrgelloedd a chan gasglwyr preifat. Cymerid agwedd wahanol o fywyd a llên Cymru fel thema bob blwyddyn, a bu'r catalogau a ddarperid yn offeryn i ddwyn i sylw gyfoeth yr etifeddiaeth Gymreig.
Yn 1931 dechreuodd wasanaeth llyfrgell i ysbytai'r ddinas, a'r flwyddyn ddilynol daeth Cynllun Taleithiol Llyfrgelloedd Cymru i rym ond mynnodd pwyllgor taleithiol Morgannwg a Mynwy, yn groes i farn Farr a'i bwyllgor, gael sefydlu canolfan daleithiol dros sir Forgannwg a sir Fynwy yng Nghaerdydd, trefniant a feirniadwyd yn llym mewn adroddiadau diweddarach. Trefnodd Farr ddarlithiau cyhoeddus yn y Llyfrgell Ganol ac arddangosfeydd llyfrau, e.e. Beiblau yn 1911, llyfrau printiedig cynnar yn 1913, a gweithiau Shakespeare yn 1923. Cyhoeddwyd catalogau gwerthfawr i bob un ohonynt.
Yr oedd Harry Farr yn enw adnabyddus iawn ym myd llyfrgellyddiaeth. Daeth yn F.L.A. yn 1910 a gwasanaethodd ar gyngor Cymdeithas y Llyfrgelloedd. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a phamffledi ar wahanol agweddau'r alwedigaeth, e.e. Libraries in rural districts, 1909, a Library work with children, 1910. Cydnabyddid ef yn llyfryddwr o fri ac yn awdurdod ar lyfrau printiedig cynnar, ar wahanol argraffiadau o weithiau Shakespeare, ac ar gynhyrchion gweisg preifat. Yr oedd ganddo feddwl craff a bywiog, ac nid ofnai arbrofi. Dyfeisiodd gyfundrefn ddegol a ddefnyddiwyd hyd yn ddiweddar yn y llyfrgell, ond yr oedd iddi anfanteision amlwg yn nyddiau catalogio canolog, a bu'n rhaid rhoi'r gorau iddi. Pan ymddeolodd yn 1940 cyfrifid gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd yn un o'r rhai gorau yn y deyrnas a'r Llyfrgell Ganol yn un o lyfrgelloedd bwrdeistrefol mawr Prydain. Defnyddid yr adran gyfeirio, a oedd ar agor bob nos tan naw o'r gloch, gan filoedd o ddarllenwyr y tu hwnt i derfynau'r ddinas, a diwallodd ei chasgliadau Cymreig ofynion myfyrwyr drwy Gymru gyfan.
Pr. yn 1913 ag Elsie Olive Davies, aelod o'i staff; bu hi f. o'i flaen; g. iddynt bump o blant, tri mab a dwy ferch. Bu f. 19 Ion. 1968.
Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth