Cyhoeddodd nofel, One has been honest (1930), a cherddi a storïau yn The Adelphi ac yn The Twentieth century yn y tridegau; yna troes at y ddrama a pherfformiwyd The disinherited o'i waith yn Theatr Fach Abertawe yng Ngorff. 1939. Ymunodd â'r llynges adeg y rhyfel a thra oedd yn Ynys yr Iâ ymroes i ddysgu Cymraeg o lyfryn Caradar. O hyn allan ar gyfansoddi dramâu yn Gymraeg yr oedd ei fryd. Ysgrifennodd nifer o ddramâu byrion: Y Lleoedd pell (1945), Y Blaidd-ddyn (1945), Awena (1945), Harri ddewr, a Morwyn y môr (1952), a thair drama hir: Catrin (a enillodd iddo wobr am ddrama hir yn Eist. Gen. Dolgellau 1949), Y Ferch a'r dewin (1958) (a oedd yn gyd-fuddugol yn Eist. Gen. y Rhyl 1953), a Merch yw Medusa (1951). Cyfieithodd hefyd ddrama Andre Obey, Noa (1951). Eithr pennaf gyfraniad F.G. Fisher oedd mynnu cartref sefydlog i Gymdeithas Ddrama Llangefni, a thrwy hynny greu'r Theatr Fach a agorodd ym Mhencraig, Llangefni, ym Mai 1953. Yno cafodd fod yn gyfarwyddwr theatr a gwireddu ei freuddwyd am theatr amatur yn cyflwyno dramâu yn gyson yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ôl safonau cwbl broffesiynol.
Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor