Yn 1905 cychwynnodd astudiaeth anthropolegol o'r Cymry. Ymwelodd â phentrefi ymhob cwr o'r wlad gan ddarlithio a gwneud arolwg a mesuriadau. Cyflwynodd addroddiad o'i waith yn 1907 i Adran H (anthropoleg) Cymdeithas Prydain er Hyrwyddo Gwyddoniaeth, a chyhoeddodd (gyda T. Campbell James) adroddiad yn y cylchgrawn Man, y cyntaf o tua 30 o'i erthyglau ar anthropoleg. Yn 1916 ysgrifennodd bapur arloesol ar ddosraniad daearyddol y dosbarthau anthropolegol yng Nghymru. Cyhoeddodd werslyfrau megis Human geography in Western Europe (1918), Peoples of Europe (1922), a Races of England and Wales (1923), a throswyd i nifer o ieithoedd ei bapur clasurol Régions Humanies a gyhoeddwyd ym Mharis. Rhwng 1927 ac 1956 bu H.J.E. Peake ac yntau'n gydawduron cyfres nodedig o 10 cyfrol — The corridors of time — ac yn y cyfamser cyhoeddodd French life and its problems (1942) a A natural history of Man in Britain (1951 ac 1959). Trwy gyfrwng y Gymdeithas Ddaearyddol y bu ef yn ysgrifennydd iddi ac yn olygydd ei chylchgrawn Geography am 30 ml., 1917-47, gweithiodd yn ddygn er hyrwyddo dysgu daearyddiaeth mewn ysgolion. Bu'n llywydd nifer o gyrff dysgedig, gan gynnwys Cymdeithas Archaeolegol Cymru yn 1924, ac anrhydeddwyd ef gan brifysgolion a chymdeithasau gwyddonol lle bynnag yr aeth; etholwyd ef yn F.R.S. yn 1936. Ond fel athro y cofid amdano yn bennaf. Ysgogai ei wrandawyr i feddwl drostynt eu hunain yn hytrach na'u llwytho â thoreth o ffeithiau.
Yn 1910 pr. â Hilda Mary Bishop o Guernsey, cynfyfyriwr o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a bu iddynt 3 o blant. Ar ei ymddeoliad yn 1944 symudodd i Lundain ac yn ddiweddarach i 66 West Drive, Cheam, Surrey, lle y bu f. 1 Gorff. 1969.
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth