Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FOSTER, IVOR LLEWELYN (1870-1959), datganwr; g. yn Tramroad, Pontypridd, 1 Mawrth 1870, mab i Ebenezer Foster a Sarah (g. John) o Ben-y-graig, Rhondda, Morg. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed, a phan oedd yn 16, ac mewn masnach gyda'i ewythr, William Richards, Dinas, Rhondda, y dechreuodd astudio hen nodiant yn ei oriau hamdden, a chystadlu mewn eisteddfodau. Enillodd ar ganu yn eisteddfod flynyddol y Porth yn 1892, 1893 ac 1894, a dwywaith ar yr unawd baritôn yn yr Eist. Gen. (Caernarfon 1894 a Llanelli 1895). Yn dilyn ei lwyddiant yn Llanelli trefnodd rhai o'i gyfeillion yn y Rhondda gyngherddau i'w gynorthwyo i gael addysg gerddorol; aeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ym mis Mai 1896, a bu yno am bedair bl. yn astudio gyda Henry Blower (llais), James Higgs (cynghanedd) a Villiers Stanford (opera). Enillodd dlws aur yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y coleg, a chyn terfyn ei gwrs yno dywedai Syr Hubert Parry mai ef oedd un o'r baritoniaid gorau a fu'n astudio yn y coleg. Portreadodd y cymeriad Don Pedro mewn perfformiadau o opera Stanford Much ado about nothing yn Covent Garden yn 1901. Yn ddiweddarach, bu'n canu yn y cyngherddau promenâd ac yng nghyngherddau baledi Boosey yn Llundain, ac ymddangosodd am 27 o dymhorau'n olynol yng nghyngherddau'r Royal Albert Hall. Canodd hefyd mewn gwyliau cerddorol, gan gynnwys gŵyl Caerdydd (deirgwaith), a recordiodd ganeuon Cymraeg ar label Winner. Ar ôl ymneilltuo o waith cyhoeddus ymsefydlodd fel athro canu.

Pr., 29 Mai 1897, â Mary Ann Jones, Tonypandy (bu hi f. 1971). Bu f. yn ei gartref ym Mhorth-cawl 29 Mawrth 1959, ac amlosgwyd ei gorff yn Llanisien, Caerdydd. Yn 1962 cyfrannodd ei deulu £300 er mwyn sefydlu gwobr goffa yn dwyn ei enw yn y cystadleuthau i faritôn agored ac i faritôn dan 25 oed yn yr Eist. Gen.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • Y Cerddor, Mai 1902;
  • gwybodaeth gan ei fab, Rupert Foster, Porth-cawl.

Awdur:

Huw Williams, (1922-2002), Bangor / Prestatyn