Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FOULKES, ANNIE (1877-1962), golygydd blodeugerdd; g. 24 Maw. 1877 yn Llanberis, Caern. Yr oedd ei thad Edward Foulkes (1850-1917), swyddog yn chwarel Dinorwig, yn ŵr o ddiwylliant llenyddol eang ac yn awdur nifer o ysgrifau yn y cyfnodolion Cymraeg ar lenorion Saesneg y 19 g.: y mae gan Robert Williams Parry (gw. isod) soned goffa iddo. Cafodd hi ei haddysg yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, ac yn y Collège de Jeunes Filles yn Saumur, Ffrainc, 1896-97. Bu'n athrawes Ffrangeg yn Bray, Co. Wicklow, 1897, yn ysgol sir Tregaron 1898-1905, ac yn ysgol sir y Barri 1905-18. Yn 1918 penodwyd hi'n Ysgrifennydd Gweithredol Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, yn olynydd i Robert Silyn Roberts (Bywg., 824). Yn y Barri yr oedd hi'n aelod o gylch llengar a ymgasglodd o gwmpas Thomas Jones, C.H. (gw. isod), a Silyn — y criw a oedd tu ôl i'r Welsh Outlook. Awgrymodd Thomas Jones fod angen blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg ddiweddar ac y dylai Annie Foulkes ei golygu. Ymddangosodd y flodeugerdd yn 1918 dan y teitl Telyn y dydd, yn un o gyfrolau ‘Cyfres yr Enfys’. Bu'n boblogaidd iawn, yn enwedig yn yr ysgolion — cyhoeddwyd pedwerydd argraffiad yn 1929. Bu Annie Foulkes f., yn ddibriod, yng Nghaernarfon 12 Tach. 1962 yn 85 oed.

Llyfryddiaeth:

  • Papurau Annie Foulkes a'i thad yn Llyfrgell Coleg Bangor (llsgrau. Bangor 16040-16410, 16590-16668);
  • C. and D. Herald, 16 a 23 Tach. 1962 (dan Gaernarfon).

Awdur:

Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor