FRANCIS, JOHN OSWALD (1882-1956), dramodydd;
g. 7 Medi 1882 yn fab David Francis, Dowlais, Morg. a'i briod Dorothy (g. Evans). Yr oedd yn un o ddisgyblion cyntaf ysgol ganolradd Merthyr Tudful a graddiodd yn Aberystwyth a'r Sorbonne, cyn mynd yn athro i ysgol sir Glynebwy, ac wedyn i ysgol ramadeg Holborn, Llundain. Ar ôl bod yn y fyddin yn Rhyfel Byd I aeth i'r gwasanaeth sifil, yn swyddog yn y Mudiad Cynilo Cenedlaethol. Ymddeolodd c. 1953, wedi derbyn M.B.E. am ei waith. Ond am ei ran yn ailennyn diddordeb yn y ddrama yng Nghymru y cofir ef. Yr oedd y dramodwyr R.G. Berry (Bywg.2, 3) a David Thomas Davies (gw. uchod) yn gyfoedion iddo. Tuag 1910 dechreuodd ysgrifennu dramâu i gynfyfyrwyr Aberystwyth. Yr oedd The Poacher, a lwyfannwyd gyntaf yn Aberystwyth yn 1914, yn gampwaith a ddangosai ei feistrolaeth a'i gynildeb wrth greu cymeriadau cefn gwlad Cymru. Cafodd ei ddrama ysgafn Birds of a feather gyfnod nodedig o lwyddiannus ar lwyfan y London Coliseum, 1914-18, a pherfformiwyd hi mewn llawer rhan o'r byd hyd at ei farw. Drama hanesyddol oedd Howell of Gwent (1934) a berfformiwyd yng Nghymru a Llundain gan Gwmni Theatr Cenedlaethol Cymru. Un o'i weithiau gorau oedd The dark little people (1922). Ond ei waith gorau oll y mae'n debyg oedd ei ddrama hir mewn pedair act, Change (1913), a oedd yn ddrama rymus am fywyd mewn ardal ddiwydiannol yng Nghymru ac a enillodd iddo wobr Howard de Walden (gw. Bywg. 2, 53-4 o dan SCOTT-ELLIS). Troswyd llawer o'i ddramâu i'r Gymraeg a dysgodd siarad yr iaith pan oedd yn ganol-oed. Cyhoeddwyd ei ysgrifau yn The legend of Wales (1924) ac ysgrifennodd fraslun o hanes C.P.C., Aberystwyth yn 1922. Yr oedd yn ddramodydd o fri a lwyddai i godi chwerthin a thynnu dagrau bob yn ail ond yr oedd yn wylaidd ynghylch ei ddoniau ei hunan ac ni pheidiai â synnu at y llwyddiant diamheuol a ddaeth i ran ei ddramâu un act ar lwyfannau Prydain. Cafodd gan Brifysgol Cymru radd M.A. er anrh.
Pan oedd dros ei 70 ml. oed dysgodd lithrhedfan. Bu f. yn fab gweddw ar 1 Hyd. 1956 yn y Bwthyn, 13 Dingwall Gardens, Golders Green, Llundain, lle y trigai gydag un o'i chwiorydd.
Llyfryddiaeth:
- WwW (1921);
- Y Ddinas, Tach. 1954, Tach. 1956;
- The Times, 2 Hyd. 1956, 10;
- Liv. D.P., 2 Hyd. 1956.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth