g. yng Nghaerdydd 22 Meh. 1897, unig blentyn Charles Henry Freeman, Birkenhead, a'i wraig Catharine (g. Mawdesley), Southport. Addysgwyd hi yn y Canton High School for Girls a Choleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd, lle y graddiodd gyda B.A. yn y clasuron yn 1918, ac ennill M.A. yn 1922, a D.Litt. yn 1940. Apwyntiwyd hi yn ddarlithydd mewn Groeg yn yr un coleg yn 1919, a chyhoeddodd i ddechrau waith ymchwil clasurol a nifer o nofelau arbrofol. Bu bwlch pendant yn ei chyhoeddiadau rhwng 1929 ac 1936. Pan ailgydiodd mewn cyhoeddi gwaith sylweddol, yr oedd dan wasgfa rhyfel, a'i hegnïon eraill erbyn hyn wedi eu cyfeirio tuag at ysgrifennu dros 20 o nofelau datgelu rhwng 1941 ac 1958, a gyhoeddodd tan y ffugenw ‘Mary Fitt’. Yn ystod y rhyfel (1939-45) darlithiai ar ran y Weinyddiaeth Hysbysrwydd a chymerodd ran yng nghynllun addysgu'r lluoedd arfog yn ne Cymru. Ar galan Hyd. 1946, a hithau'n ddarlithydd uwch yn ei hadran, ymddiswyddodd i ymroi i deithio, i waith ymchwil, ac i ysgrifennu. Yn 1951 etholwyd hi'n gadeirydd y Philosophical Society of Great Britain, a'r un flwyddyn derbyniwyd hi i'r Detection Club, anrhydedd a fawr chwenychir gan ysgrifenwyr nofelau datgelu. Bu f. yn 61 oed, 21 Chwef. 1959, yn ei chartref yn Lark's Rise, Llaneirwg, Myn.
Fel Kathleen Freeman cyhoeddodd: The work and life o Solon (1926), The intruder and other stories (1926), Martin Hanner: A comedy (1926), Quarrelling with Lois (1928), This love (1929), It has all happened before, What the Greeks thought of their Nazis (1941), Voices of freedom (1943), What they said at the time: a survey of the causes of the second World War (1945), The murder of Herodes and other trials from the Athenian law courts (1946), Ancilla to the pre-Socratic philosophers, a complete translation of the fragments in Diel's Fragmente der Vorsokratiker (1946), The Greek way: an anthology (1947), sef cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith, The Philoctetes of Sophocles: a modern version (1948), Greek city states (1950), God, man and the state: Greek concepts (1952), The paths of justice (1954), The Sophists (1954) wedi ei gyfieithu o'r Eidaleg I sofisti, M. Untersteiner (1954), T'other Miss Austen (1956) ac If any man build: the history of the Save the Children Fund (1965) a ymddangosodd ar ôl ei marw.