Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GABE, RHYS THOMAS (REES THOMAS GAPE ; 1880-1967), chwaraewr rygbi; g. 22 Meh. 1880 yn Llangennech, Caerf. Bu'n chwarae'n lleol cyn cynrychioli Llanelli am y tro cyntaf yn 17 oed. Enillodd y cyntaf o'i 24 o gapiau (1901-8) ar yr asgell yn erbyn Iwerddon ar 21 Maw. 1901. Fel canolwr y daeth i enwogrwydd. Meddai ar yr holl ddoniau; yn ddi-ildio'i amddiffyn, wrth ymosod rhedai'n syth a phenderfynol. Yn dwyllodrus, cadarn ac esgyrnog, yr oedd yn un o'r mwyaf anodd i'w daclo. Yn 1901 cychwynnodd ar gwrs i'w hyfforddi'n athro yng ngholeg Borough Road, Llundain, a chwaraeodd am gyfnod gyda'r Cymry yn Llundain. Ar ôl teithio i Awstralia gyda'r tîm Prydeinig yn 1904, dychwelodd i fod yn athro ysgol yng Nghaerdydd, a sgoriodd 51 cais mewn 115 gêm dros glwb y ddinas cyn rhoi'r gorau iddi yn 1908. Cyfrannodd yn allweddol at fuddugoliaeth hanesyddol Cymru (3-0) dros y Crysau Duon yn 1905, ac ynghyd ag Erith Gwyn Nicholls (Bywg., 645), William (‘Willie’) Morris Llewellyn ac Edward (‘E.T.’) Morgan (Atod. isod) ffurfiodd y llinell dri chwarter ddisgleiriaf a gynrychiolodd Gymru erioed. Bu f. 15 Medi 1967 yng Nghaerdydd.

Llyfryddiaeth:

  • W. Thomas, A century of Welsh rugby players (1980);
  • David Smith a Gareth Williams, Fields of Praise (1980);
  • West. Mail a The Times, 18 Medi 1967.

Awdur:

Yr Athro Ga