Etholwyd ef gyntaf i gyngor sir Caernarfon yn 1907 a bu'n aelod hyd 1967, ac yn gadeirydd yn 1911. Bu'n gadeirydd pwyllgor addysg y sir 1916-48, ac fel cadeirydd Bwrdd Canol Cymru ac arweinydd ym myd addysg Cymru cafodd gyfle i roi mewn gweithrediad rai o'r polisïau y credai ynddynt er mwyn ceisio diogelu iaith a chrefydd Cymru. Yr oedd o flaen ei oes yn sicrhau safle'r Gymraeg mewn deddfwriaeth a gweinyddiaeth gyhoeddus, a chyfieithodd Ddeddf Yswiriol 1911 i'r Gymraeg a'i chyhoeddi'n llyfryn gydag atodiad o restr o dermau cyfraith Cymraeg. Bu'n gadeirydd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg a sefydlwyd yn 1913, ac yn ystod ei gadeiryddiaeth y trefnwyd y ddeiseb genedlaethol (1938) i geisio sicrhau statws briodol i'r iaith yn y llysoedd, ymgyrch a arweiniodd at y Welsh Courts Act 1942. Gwnaeth lawer i hybu cydweithio rhwng cynghorau sir Cymru, yn arbennig mewn addysg, a chredai'n gryf mewn sefydlu cyngor addysg cenedlaethol dros Gymru. Yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth a ymwelodd â'r Gweinidog Addysg i geisio cefnogaeth i'r polisi yn 1920. Ef hefyd, fel Cadeirydd y Bwrdd Canol, a gyflwynodd yr awgrym fod dau ddisgybl ysgol uwchradd o bob sir yn treulio wythnos yn yr Eist. Gen. yn westeion cronfa a godwyd wrth werthu swyddfeydd y Bwrdd Canol yn 1944.
Bu'n gyfreithiwr myg. llys a chyngor yr Eist. Gen. o 1937 hyd 1956, gweithiodd yn ddygn i uno Gorsedd y Beirdd a Chymdeithas yr Eisteddfod ac etholwyd ef yn Gymrawd yn 1956. Cyhoeddodd hefyd ddeunydd i blant, Llyfr y cyfarfod plant (1908). Derbyniodd radd LL.D. er anrh. Prifysgol Cymru yn 1947 a chyflwynwyd cyfarchiad ar femrwn iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei ben-blwydd yn gant. Bu'n aelod yn eglwys Pen-y-maes (B.Alb., Disgyblion Crist) a Berea (B) Cricieth, a chyflwynwyd iddo fedal Gee.
Fe'i breintiwyd ag ymennydd o'r radd flaenaf ac â dawn i'w fynegi'i hun yn gryno a dibetrus. Heb ei hunanymwadiad a'i fedr fel cyfreithiwr anodd dirnad sut y gallasai David Lloyd George fod wedi datblygu'n wleidydd proffesiynol mor gynnar yn ei yrfa. Dengys y llythyrau rhyngddynt fod David yn rhoi pwys mawr ar farn William ar bynciau'r dydd ac adlewyrchir y farn honno yn ei areithiau. Cyhoeddodd My Brother and I (1958), Atgof a myfyr (1948) a Richard Lloyd (1934). Pr. Anita Williams o Abergwaun yn 1910; bu hi f. 1943. Bu iddynt feibion — efeillion, bu farw un yn ei fabandod. Bu f. yng Nghricieth 25 Ion. 1967 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Cricieth.
Dr William Richard Philip George, Cricieth