GREENLY, EDWARD (1861-1951), daearegwr;
g. 3 Rhag. 1861 ym Mryste, yn f. Charles H. Greenly a'i wraig Harriet. Wedi'i addysgu yn Clifton College, Bryste, bu am gyfnod yn glerc trwyddedig mewn swyddfa cyfreithiwr yn Llundain, ond ymadawodd er mwyn cael astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain. Ymunodd â'r Arolwg Ddaearegol (Yr Alban) yn 1889 ond yn 1895 ymddiswyddodd a dechrau ar dasg a osododd iddo ef ei hun, sef ymgymryd yn answyddogol ag arolwg ddaearegol newydd o Ynys Môn. Pr. Annie Barnard yn 1891 (bu hi f. yn 1927) a buont yn cydweithio ar y dasg hon nes ei chwblhau yn 1910. Cyhoeddwyd The geology of Anglesey, 2 gyf., yn 1919 a'r map 1 mod. yn 1920. Estynnwyd y gwaith ar ôl hynny i Arfon. Cyhoeddodd (gyda Howel Williams) Methods of geological surveying (1930) ac ymddangosodd ei hunan-gofiant, A hand through time, yn 1938. Dyfarnwyd iddo fedal Lyell y Gym. Ddaearegol yn 1920, a medal Cym. Ddaearegol Lerpwl yn 1933. Cafodd radd D.Sc. er anrh. Prifysgol Cymru yn 1920. Bu f. ym Mangor 4 Maw. 1951.
Awdur:
Dr Brynley Francis Roberts, Aberystwyth