GRIFFITHS, EZER (1888 - 1962), ffisegydd

Enw: Ezer Griffiths
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1962
Rhiant: Anne Griffiths
Rhiant: Abraham Lincoln Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffisegydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Aberdâr, Morgannwg, yn un o naw plentyn a'r hynaf o chwe mab Abraham Lincoln Griffiths a'i wraig Anne, 28 Tachwedd 1888. Addysgwyd ef yn ysgol uwchradd Aberdâr, a Choleg Prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd, lle y graddiodd yn B.Sc. gyda dosbarth cyntaf mewn ffiseg ac ennill ysgoloriaeth ymchwil ac yn ddiweddarach gymrodoriaeth Prifysgol Cymru a gradd D.Sc. Yn 1915 ymunodd â'r National Physical Laboratory yn Teddington lle y treuliodd weddill ei oes yn ymgodymu â phroblemau gwres. Daeth yn un o'r prif awdurdodau ar ynysiad gwres, anweddiad, a materion cysylltiol a fu'n gyfraniad gwerthfawr i fyd diwydiant. Yn 1923 yr oedd yn un o dîm a ddanfonwyd i Awstralia i astudio problem cludo afalau drwy wres y trofannau i Brydain. Saith mlynedd yn ddiweddarach aeth i Seland Newydd i ddelio â phroblemau allforio cig oen i'r wlad hon. Bu hefyd yn astudio problemau ynglŷn â'r cymylau tarth a ffurfir yn sgîl awyrennau, a bu'n ymchwilio i'r ffyrdd gorau i addasu tanciau at wasanaeth yng ngwres anialwch Libya yn ystod Rhyfel Byd II. Dyfarnwyd medal Moulton iddo ef ac R.W. Powell am eu cywaith ar anweddiad dŵr oddi ar arwynebau. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1926 a chafodd yr O.B.E. yn 1950. Ymddeolodd o'i swydd fel Prif Swyddog Gwyddonol hynaf adran ffiseg y Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn 1953.

Bu farw yn ddibriod yn Teddington, 14 Chwefror 1962. Cyhoeddodd lyfrau - Methods of measuring temperatures (1918, ail arg. 1925, 3ydd arg. 1947), Pyrometers (1926), a Refrigeration principles and practice (1951) - a llu o bapurau technegol yn ei faes.

Brodyr iddo oedd Edgar A. Griffiths, ffisegydd i lywodraeth De Affrig, Jenkin Arthur Griffiths, gol. Colliery Guardian, a Roosevelt Griffiths, darlithydd mewn meteleg, Coleg y Brifysgol, Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.