GRIFFITHS, WILLIAM (1898 - 1962), llyfrwerthwr

Enw: William Griffiths
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1962
Priod: Winifred Irene Griffiths (née Kent)
Rhiant: Margaret Ann Griffiths (née Williams)
Rhiant: Joseph Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrwerthwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 6 Mehefin 1898 yn Evanstown, Y Gilfach-goch, Morgannwg, yn fab i Joseph Griffiths a'i wraig Margaret Ann (ganwyd Williams). Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol elfennol Abercerdin, Evanstown, 1903-11. Bu'n gweithio am rai blynyddoedd fel glôwr ac yna aeth i fyw yn Llundain. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gerdd y Guildhall, a chael hyfforddiant ar y ffidil gan athrawon fel Jeffrey Pulver a Harold Fairhurst. Yr oedd yn chwaraewr medrus a bu'n chwarae'n broffesiynol hyd tuag 1931. Yna ymunodd â Chwmni Foyle, y llyfrwerthwyr, Heol Charing Cross, a bu'n gyfrifol am adran Gymreig y cwmni am ryw bedair blynedd ar ddeg. Yn 1946 cymerodd at siop yn Cecil Court (Leicester Square) lle y sefydlodd, gyda'i dri brawd, fusnes llyfrau Cymreig, menter llwyddiannus a wnaeth y siop yn gyrchfan boblogaidd i Gymry Llundain, ac yn adnabyddus i ysgolheigion Celtaidd ac ymwelwyr eraill o wahanol rannau o'r byd. Yr oedd yn ŵr adnabyddus ac amlwg ymhlith Cymry 'r brifddinas. Gwasanaethodd fel cadeirydd Cyngor Cymdeithas Cymry Llundain, a chadeirydd Cylch Llenyddol y gymdeithas honno. Bu'n golygu Y Ddinas o Dachwedd 1956 i Chwefror 1959. Bu'n aelod o Gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am flynyddoedd ac etholwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw ' Gwilym Cerdin '. Priododd Winifred Irene, merch John Kent, a'i wraig Sara (ganwyd Rogers) yn eglwys blwyf Mentmore, swydd Buckingham 23 Medi 1933, a bu iddynt un ferch. Bu farw 8 Hydref 1962 mewn ysbyty yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.