Yr oedd yn bregethwr coeth a grymus yn ei ddydd, a datblygodd yn un o arweinyddion ei Gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1952), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1959). Traddododd y Ddarlith Davies yn 1942, a gyhoeddwyd dan y teitl Datguddiad a datblygiad (1946). Ef oedd prif olygydd Y Cyfarwyddwr (1929-30), a bu'n un o isolygyddion yr un cylchgrawn, 1931-44. Bu hefyd yn olygydd Y Goleuad (1949-57). Ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor a baratôdd ‘Y Gyffes Fer', a'r Llyfr gwasanaeth (1958). Bu'n aelod o bwyllgor y cyfieithiad newydd o'r Beibl, cyngor a llys Coleg y Brifysgol, Bangor. Cyfrannodd ysgrifau i'r Geiriadur Beiblaidd (1926), ac i'r Bywg. Yr oedd ynddo anian llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel, sef Helynt Coed y Gell (1928) a Helynt Ynys Gain (1939). Cyhoeddodd nifer o lyfrau eraill: Paul y cenhadwr (1925), Rhai o gymeriadau'r Hen Destament (1927), Y Groes (1943), The wonderful life (1941), cyfrol o bregethau, Ffynnon Bethlehem (1948), a Cofiant cenhades (Helen Rowlands) (1961). Yn ei flynyddoedd olaf cyfansoddodd a throsodd gryn lawer o emynau — cyhoeddodd gasgliad ohonynt dan y teitl Odlau'r Efengyl (1959). Ymddangosodd penodau o'i atgofion yn Y Goleuad, ac ym mlwyddyn ei farwolaeth cyhoeddwyd y rheini dan y teitl Cofio'r blynyddoedd. Rhwng popeth a'i gilydd bu'n rhyfeddol o brysur, a cheid graen bob amser ar ei gynhyrchion fel pregethwr ac awdur.
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe