Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH, GRACE WYNNE (1888-1963), nofelydd; g. yn Chwef. 1888 yn Niwbwrch, Môn, merch y Capten W.G. Roberts. Chwaer iddi oedd Elizabeth Ann Williams, awdur Hanes Môn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (1927). Addysgwyd hi yn ysgol sir Caernarfon. Bu'n nyrsio yn Lerpwl ym mlynyddoedd cynnar y ganrif bresennol, ac yno y cyfarfu â Griffith Wynne Griffith (gw. isod), Lerpwl; pr. hwy yn 1914. Bu f. 1 Mai 1963. Daeth i amlygrwydd yn 1934 pan ddaeth yn gydradd â Kate Roberts yn Eist. Gen. Castell-nedd yng nghystadleuaeth y nofel. Cyhoeddwyd ei nofel yn 1935 dan y teitl Creigiau Milgwyn; nofel Kate Roberts oedd Traed mewn cyffion. Adolygwyd Creigiau Milgwyn gan yr Athro T.J. Morgan; darniwyd y nofel yn drwyadl a chondemniwyd y beirniad (Dr. Tom Richards, gw. isod) yn chwyrn am ei gwobrwyo.

Llyfryddiaeth:

  • Y Llenor, 1936, 48-55;
  • Dafydd Jenkins, Y Nofel (1948), 23;
  • gwybodaeth gan ei mab, Huw Wynne Griffith.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe